Lefel 1/2 Peirianneg - Mae'r cymhwyster hwn wedi'i dynnu'n ôl
Mae'r cymhwyster hwn wedi'i dynnu'n ôl a bydd yn cael ei ddyfarnu am y tro olaf yn Haf 2023. Mae ein Dyfarniad Galwedigaethol newydd mewn Peirianneg i'w weld yma
Nid oes cyfle i gyflwyno Asesiadau Di-arholiad eto ar gyfer y cymhwyster hwn ond mae cyfle i ailsefyll yr arholiad ym mis Ionawr 2024. Rhaid cofrestru erbyn 21 Hydref 2023 a dim ond dysgwyr sydd eisoes wedi rhoi cynnig ar Uned 3 sy'n gallu cael eu cofrestru. Mae amserlen yr arholiadau ar gael nawr (mae dyddiad yr arholiad ar dudalen 9 y pdf).
Mae ein manyleb Lefel 1/2 Peirianneg yn ddewis mwy ymarferol nag astudio TGAU i ddysgwyr.
Mae'r cymhwyster yn cyflwyno myfyrwyr i'r gwahanol linynnau sydd ar gael yn y maes peirianneg, gan roi cyfle i ddysgwyr ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth drwy dasgau a osodir mewn cyd-destunau realistig sy'n gysylltiedig â gwaith.
Mae'r Dyfarniad Lefel 1 / 2 mewn Peirianneg (IVQ) wedi'i rannu'n unedau ac yn cael ei asesu'n fewnol ac yn allanol.
Mae'r Dyfarniad yn cynnwys tair uned orfodol. Rhaid cwblhau'r gwaith a asesir yn fewnol yn y ganolfan ei hun gan fabwysiadu egwyddorion asesu dan reolaeth wrth wneud hynny.
Uned | Oriau Dysgu dan Arweiniad | Asesu |
Uned 1 (9791): Dylunio Peirianneg | 30 ODA | Asesu mewnol a safoni allanol |
Uned 2 (9792): Cynhyrchu Cynhyrchion Peirianneg | 60 ODA | Asesu mewnol a safoni allanol |
Uned 3 (9793): Datrys Problemau Peirianneg | 30 ODA | Asesu allanol |
Ewch i'n gwefan ddiogel er mwyn gweld deunyddiau unigryw nad ydynt ar gael ar y wefan hon.
Ehangu eich gwybodaeth, cael mewnwelediad i asesu, a rhoi hwb i'ch incwm!
Ffiniau gradd yw'r nifer lleiaf o farciau sydd eu hangen i gyflawni pob gradd.
Fersiynau drafft o’r fanyleb a’r deunyddiau asesu enghreifftiol
Teitl |
ISBN |
9781912820603 |