Lefel 1/2 Dyfarniad Galwedigaethol Chwaraeon ac Egwyddorion Hyfforddi
Cyflwynwch gais nawr ac ymunwch â'n tîm o arholwyr.
*Gan ddibynnu ar y pwnc, ac yn seiliedig ar farcio dyraniad llawn a chwblhau'r hyfforddiant (y cewch eich talu amdano).
Bydd ein Dyfarniad Galwedigaethol mewn Chwaraeon ac Egwyddorion Hyfforddi yn meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth myfyrwyr o'r sector Chwaraeon a Hyfforddi ac yn rhoi cyfleoedd iddynt feithrin sgiliau ymarferol cysylltiedig. Mae'n ymdrin â ffitrwydd ar gyfer chwaraeon, gwella perfformiad mewn chwaraeon ac egwyddorion hyfforddi.
Lefel 1/2 Dyfarniad Galwedigaethol Chwaraeon ac Egwyddorion Hyfforddi Cydymaith Cwrs 978-1-86085-748-5 |
|
Mae’r llyfr hwn wedi’i ysgrifennu’n benodol ar gyfer cwrs Dyfarniad Galwediaethol Lefel 1/2 Chwaraeon ac Egwyddorion Hyfforddi CBAC ac Eduqas. Mae’n addas ar gyfer myfyrwyr o bob gallu, ac mae’n ymdrin â’r wybodaeth a’r sgiliau y bydd eu hangen arnyn nhw wrth iddyn nhw ddilyn y cwrs.
Mae Stuart Vaudin wedi bod yn dysgu Addysg Gorfforol ynghyd ag ystod o bynciau galwedigaethol am dros ddeng mlynedd ar hugain. Mae hefyd wedi gweithio fel marciwr i brif gyrff dyfarnu am gyfnod o ugain mlynedd, ac fel Prif Arholwr a Phrif Gymedrolwr am yr wyth mlynedd ddiwethaf. Yn ystod yr amser hynny mae wedi bod yn gyfrifol am ddatblygu manylebau, cynhyrchu adnoddau, cynnal DPP ac asesu.
> Gall canolfannau archebu heddiw trwy lenwi'r ffurflen hon, neu gallwch archebu ar Amazon |