UG/Safon Uwch Drama a Theatr
Cysylltwch â ni ar unwaith os nad ydych wedi clywed gan arholwr am ymweliad ar gyfer Uned 3.
Mae gwybodaeth bwysig yn cael ei ddarparu i athrawon bob mis drwy gylchlythyrau ar ein gwefan ddiogel (gofynnowch i’ch swyddog arholiadau am fanylion). Gweler gylchlythyr mis Mehefin am wybodaeth ynglyn â deunydd symbylu Uned 3.
Bydd angen mynediad i IAMIS ar y personél yn y ganolfan sy’n gyfrifol am gyflwyno marciau asesiadau dan reolaeth a gwaith sampl. Bellach mae angen mewngofnodi i’r Porth newydd i wneud hyn.
Bydd Swyddogion Arholiadau a deiliaid cyfrifon Gweinyddu yn eich canolfan yn gallu gwneud hyn i chi, neu gallan nhw greu cyfrifon ‘Defnyddiwr’ gyda mynediad i IAMIS ar gyfer unigolion a enwebir yn eich canolfan e.e. athrawon neu arweinwyr adrannau.
Os bydd angen mynediad arnoch chi, cofiwch adael digon o amser i osod eich cyfrif/trefnu’r mynediad. Mae’n bwysig i chi hefyd wneud yn siŵr eich bod yn cyflwyno marciau a samplau yn unol â therfynau amser cyhoeddedig CBAC/Eduqas.
Nodyn i'ch atgoffa i wirio cylchlythyr mis Ionawr am newidiadau pwysig i nifer y cwestiynau ym mhapur ysgrifenedig Uned 2 UG CBAC a Uned 4 Lefel A CBAC.
Safon Uwch - 10 Mawrth cyfnod cyflwyno drwy IAMIS yn dechrau (noder, gall gymryd sawl diwrnod i godau allwedd ar gyfer Surpass gael eu cynhyrchu ar ôl cyflwyno marciau) 15 Mai – dyddiad cau terfynol i gyflwyno'r holl farciau ar IAMIS ac i uwchlwytho'r holl waith i Surpass.
Mae ein cwrs UG/Safon Uwch Drama a Theatr yn gwrs cyffrous ac ysbrydoledig sy'n paratoi dysgwyr ar gyfer astudio pellach mewn Addysg Uwch neu unrhyw lwybr arall y gallent ei ddewis. Y mae'r fanyleb hynod o ymarferol hon yn rhoi amrywiaeth o sgiliau bywyd hanfodol i ddysgwyr a fydd yn eu helpu i lwyddo mewn unrhyw yrfa o'u dewis. Byddant yn cael cyfle i weithio naill ai fel perfformwyr a/neu ddylunwyr ar dri pherfformiad gwahanol.
Pam astudio Drama?
Mae'r fanyleb yn cynnig cwrs astudio ymarferol a heriol sy'n annog dysgwyr i ddatblygu a chymhwyso fframwaith hyddysg, dadansoddol ar gyfer gwneud, perfformio, dehongli a deall drama a theatr.
Mae AAA yn offeryn dysgu ac addysgu rhyngweithiol sy'n cydlynu cwestiynau a sylwadau arholwyr.
Ewch i'n gwefan ddiogel er mwyn gweld deunyddiau unigryw nad ydynt ar gael ar y wefan hon.
Ceir ystod eang o adnoddau addysgol digidol rhad ac am ddim.
Mae gwaith ymgeiswyr mewn unedau/cydrannau a asesir neu gymedrolir yn fewnol yn cael ei e-gyflwyno i CBAC ar gyfer y pwnc hwn.
Ffiniau gradd yw'r nifer lleiaf o farciau sydd eu hangen i gyflawni pob gradd.
Mae'r adnoddau rhad ac am ddim yma yn cefnogi addysgu a dysgu'r pynciau hynny a gynigir gan CBAC. Bydd angen i athrawon bennu sut i ddefnyddio'r adnoddau yn yr ystafell ddosbarth er mwyn cael y gorau ohonynt.
Croeso i wefan Adolygiad Arholiad Ar-lein CBAC. Yma cewch gasgliad o unedau rhyngweithiol sy’n cyfuno nifer o elfennau gan gynnwys data cyffredinol, cwestiynau arholiad, cynlluniau marcio, yn ogystal â sylwadau arholwyr. Bydd y cyfan yn eich arwain drwy adolygiad o gwestiynau arholiad.
Ebr
Mai
Mai