TGAU Astudio'r Cyfryngau
Gweler ein proses e-Gyflwyno – canllaw canolfannau, Canllaw e-gyflwyno Asesiad Di-Arholiad Astudio'r Cyfryngau, anfonwch e-bost at: e-gyflwyno@cbac.co.uk, neu ffoniwch 029 2240 4310.
Mae ein manyleb TGAU Astudio'r Cyfryngau yn cynnig cyfle i ddysgwyr ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o amrywiaeth o faterion allweddol a'r gallu i drafod cwestiynau pwysig am y cyfryngau.
Mae'n cyflwyno dysgwyr i fframwaith cysyniadol ar gyfer dadansoddi'r cyfryngau, sydd hefyd yn sail i astudio'r cyfryngau ar lefel UG/Safon Uwch.
Mae AAA yn offeryn dysgu ac addysgu rhyngweithiol sy'n cydlynu cwestiynau a sylwadau arholwyr.
Ceir ystod eang o adnoddau addysgol digidol rhad ac am ddim.
Mae gwaith ymgeiswyr mewn unedau/cydrannau a asesir neu gymedrolir yn fewnol yn cael ei e-gyflwyno i CBAC ar gyfer y pwnc hwn.
Ffiniau gradd yw'r nifer lleiaf o farciau sydd eu hangen i gyflawni pob gradd.
Mae'r adnoddau rhad ac am ddim yma yn cefnogi addysgu a dysgu'r pynciau hynny a gynigir gan CBAC. Bydd angen i athrawon bennu sut i ddefnyddio'r adnoddau yn yr ystafell ddosbarth er mwyn cael y gorau ohonynt.
Croeso i wefan Adolygiad Arholiad Ar-lein CBAC. Yma cewch gasgliad o unedau rhyngweithiol sy’n cyfuno nifer o elfennau gan gynnwys data cyffredinol, cwestiynau arholiad, cynlluniau marcio, yn ogystal â sylwadau arholwyr. Bydd y cyfan yn eich arwain drwy adolygiad o gwestiynau arholiad.
Ebr
Mai
Mai