Q Menu
< Treforest Conference Facilities

Cyfathrebu Busnes Byd-Eang (Almaeneg, Ffrangeg, Sbaeneg)

Cymhwyster ITM galwedigaethol Lefel 1/Lefel 2 yw'r dyfarniad galwedigaethol newydd Cyfathrebu Busnes Byd-eang a fydd yn datblygu gallu'r dysgwr i weithio'n fwy effeithiol yn yr economi byd-eang. Mae'r cymhwyster yma ar gael yn Ffrangeg, Sbaeneg ac Almaeneg gyda'r addysgu cyntaf ym Mis Medi 2017

Mae ymchwil gan yr Academi Brydeinig "Born Global" yn nodi y dylai cymhwysedd ieithyddol gael ei ystyried ynsgil hollbwysig yng nghyd-destun sgiliau cyflogadwyedd ehangach.



Dogfennau Allweddol

Cyhoeddwyd y fanyleb hon cyn cwblhau'r holl wiriadau sicrhau ansawdd er mwyn sicrhau bod y fanyleb ar gael yn Gymraeg a Saesneg cyn gynted â phosibl. Bydd unrhyw wallau teipio neu wallau terminoleg yn cael eu diwygio yn rhan o'r broses wirio honno.



Dyddiadau Allweddol

Mae Amserlen Arholiadau a dyddiadau Cau Asesu mewndol y cwrs ar gael ar y wefan.

Gweld yr amserlen



Buddiannau:

Mae'r cymhwyster hwn wedi'i gynllunio i greu dysgwyr annibynnol y byddantnid yn unig yn datblygu sgiliau sy'n gysylltiedig â dysgu ieithoedd fel sgiliau cyfathrebu, llythrennedd, datrys problemau a chreadigrwydd ond hefyd yn dod i ddeall y manteision personol o fod â chymhwysedd iaith a phwysigrwydd ymwybyddiaeth ddiwylliannol yn y byd gwaith.

Bydd dysgwyr yn datblygu sgiliau yn yr iaith dramor i allu ymgymryd â gweithgareddau fel:

Gwaith a theithio rhyngwladol
Adeiladu perthnasoedd cwsmer byd-eang
Gwerthu a marchnata'n fyd-eang


Newyddion Diweddaraf

Bydd sesiynau briffio i gyflwyno'r y cwrs newydd yn digwydd yng nghyfarfodydd rhwydwaith y consortia ITM drwy gydol tymor yr hydref.



Strwythur y Cymhwyster

Rhif yr Uned Teitl yr Uned Asesiadau ODDA
1 Cyfleoedd byd-eang Mewnol 30
2 Teithio byd-eang Allanol 30
3 Perthnasoedd Cwsmeriaid Byd-eang Mewnol 30
4 Gwerthu a Marchnata'n Fyd-eang Mewnol 30



Am wybodaeth bellach, cysylltwch â:

Swyddog Pwnc

Claire Parry
029 2026 5402
languages@wjec.co.uk

Swyddog Cefnogi Pwnc

Gillian Wells
029 2026 5422
languages@wjec.co.uk

E-Asesu

029 2026 5328
e-assessment@wjec.co.uk


Cymwysterau Perthnasol:


Tanysgrifiwch i dderbyn diweddariadau pwysig yn ymwneud â'r cymhwyster hwn.