Lefel 3 Datrys Problemau Ystadegol gan ddefnyddio Meddalwedd
Pam astudio Tystysgrif Lefel 3 CBAC mewn Datrys Problemau Ystadegol gan ddefnyddio Meddalwedd?
Mae hwn yn gymhwyster cyffrous sy'n canolbwyntio ar ddefnyddio meddalwedd ystadegol i ddatrys problemau. Bydd dysgwyr yn gweithio gyda setiau o ddata gwirioneddol mewn amrywiaeth o gyd-destunau. Byddant yn defnyddio meddalwedd i brosesu'r data, dewis dulliau priodol a dadansoddi'r canlyniadau.
Mae CBAC yn falch o gyhoeddi ailddatblygiad y cymhwyster lefel 3 mewn Datrys Problemau Ystadegol gan ddefnyddio Meddalwedd.
Bydd y cymhwyster hwn ar gael i'w addysgu am y tro cyntaf yng Nghymru a Lloegr o fis Medi 2015.
Dogfennau Allweddol:
Lefel 3 Datrys Problemau gan ddefnyddio Meddalwedd Datganiad o Ddiben
Lefel 3 Datrys Problemau gan ddefnyddio Meddalwedd Manyleb
Lefel 3 Ystadegol Datrys Problemau Deunyddiau Asesu Allanol Enghreifftiol
Lefel 3 Ystadegol Datrys Problemau Deunyddiau Asesu Mewnol Enghreifftiol
Mae aseiniadau enghreifftiol ar gael i'w llwytho i lawr o'r wefan ddiogel Llwytho i Lawr Adnoddau PDF > Asesiad dan Reolaeth
Addysg Uwch a Chymdeithasau Dysgedig
Mae'r Prifysgolion a'r Cymdeithasau Dysgedig canlynol wedi cyflwyno llythyrau o gefnogaeth sy'n cadarnhau eu bod yn cefnogi'r cymhwyster hwn.
Mae pwyntiau UCAS yn gysylltiedig a'r cymhwyster hwn.
System Mewnbynnu Marciau Asesiadau Mewnol
Sylwer bod angen cyflwyno marciau asesiadau mewnol/asesiadau dan reolaeth gan ddefnyddio’r System Mewnbynnu Marciau Asesiadau Mewnol (IAMIS) ar y wefan ddiogel. Dylid anfon y gwaith i’r safonwyr erbyn 15fed Mai. I gael gwybod mwy, edrychwch ar y Llawlyfr Asesu Mewnol.
Am fanylion pellach am y cymhwyster, cysylltwch â:
Syra Saddique - Swyddog Pwnc
Ffôn: 029 2026 5318
Ebost: syra.saddique@cbac.co.uk
Rhian King - Swyddog Cefnogaeth Pwnc
Ffôn: 029 2026 5199
Ebost: rhian.king@wjec.co.uk