I edrych ar ddogfen PDF ar y dudalen hon byddwch angen Adobe Acrobat Reader
Datblygiad Proffesiynol
Mae CBAC yn trefnu rhaglen o ddatblygiad proffesiynol HMS yn gymorth i athrawon sy'n darparu cyrsiau'n arwain at gymwysterau CBAC. Fel rheol swyddogion pwnc arbenigol sy'n hwyluso'r cyrsiau, a'r Prif neu Uwch Arholwyr yn eu harwain.
Trefnir y cyrsiau ledled Cymru a Lloegr, mewn gwestai neu ganolfannau cynadledda cyfforddus. Mae rhai'n cyflwyno manylebau newydd ac eraill yn rhannu ymarfer da neu gyfnewid adborth ar arholiadau. Ceir cyfle i rwydweithio, yn ogystal â derbyn deunyddiau addysgol a syniadau newydd.
Mae'r rhaglen cyrsiau datblygiad proffesiynol newydd ar gyfer mis Medi 2008 - Medi 2009 ar gael nawr, yn cynnwys amrediad o gyrsiau rhad ac am ddim i gyflwyno manylebau TGAU newydd CBAC, i'w dysgu o fis Medi 2009 ymlaen. Archebwch le yn gynnar rhag i chi gael eich siomi!
Ffurflenni cais
Gellir gwneud ceisiadau ar-lein o fewn y tudalennau pwnc. Mae fersiynau Adobe Acrobat (PDF) a Microsoft Word ar gael i'w hargraffu a'u dychwelyd yn y post. Dylai ceisiadau ar gyfer cyrsiau lle y codir tâl gynnwys y tâl hwnnw; lle gwneir cais ar-lein, dylid anfon y tâl cyn gynted a bo modd.
Taliad am gyrsiau
Cost y dydd yw £105, neu £90 os gwneir ceisiadau cyn diwedd y tymor sy'n rhagflaenu'r cwrs (neu'r hanner tymor blaenorol ar gyfer cyrsiau Lefel Mynediad).
Bydd cyrsiau sy'n cyflwyno manylebau neu weithdrefnau newydd yn rhad ac am ddim.
Pecynnau HMS
Gellir cael pecynnau gwybodaeth HMS ychwanegol am £10.
Dyddiadau cau ar gyfer gwneud ceisiadau a chadarnhau lle
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5 diwrnod cyn pob cwrs. Codir tâl gweinyddol o £10 am geisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn. Ni fydd lle ar y diwrnod i ddirprwyon sy'n cyrraedd y lleoliad heb gadarnhad.
Anfonir llythyrau cadarnhau yn cynnwys map o'r lleoliad a rhestrau llawn o gyfranogwyr bythefnos cyn y cwrs. Dylai ymgeiswyr unigol sicrhau eu bod wedi derbyn cadarnhad cyn mynychu cwrs.
Tynnu'n ôl
Rhaid talu'r tâl llawn os na fynychir cwrs. Gellir tynnu'n ôl o gwrs hyd at 24 awr cyn y cyfarfod heb dâl. Bydd pob un sy'n hysbysu'r Uned HMS eu bod yn tynnu'n ôl yn derbyn rhif cyfeirio fel cydnabyddiaeth.
Cyrsiau Unigol i'w Cynnal mewn Ysgolion neu Golegau
Yn ogystal â'r cyrsiau a amlinellir yn y llyfryn hwn, gall CBAC ystyried trefnu digwyddiad unigol yn eich ysgol neu AALl mewn ymateb i gais. Pennir cost cyrsiau o'r fath ar sail y personél y gwneir cais amdanynt, hyd y cwrs, deunyddiau ac yn y blaen.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Swyddog Pwnc priodol.
