Naid i'r cynnwys

 
 
 

Canfod cymwysterau ac adnoddau



NEWYDD: Cymeradwyo TGAU Addysg Gorfforol llinol CBAC

Yn gyffredin â sefydliadau dyfarnu eraill, gofynnwyd i CBAC yn ddiweddar i ddiwygio manylebau TGAU er mwyn i'r asesu fod yn llinol.

Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod manyleb TGAU llinol CBAC mewn Addysg Gorfforol wedi cael ei chymeradwyo gan y rheoleiddwyr.

Mae'r cynnwys pwnc yn aros yr un peth. Yr unig wahaniaeth yw'r ffaith fod angen cymryd yr holl arholiaduau ar ddiwedd y cwrs mewn manylebau llinol.  Gallwch weld y fanyleb ddiwygiedig yma.

Y prif bwyntiau:

Bydd gofyn i BOB canolfan yn Lloegr ddefnyddio manylebau TGAU llinol o'r dyfarniad cyntaf yn 2014 (i'w haddysgu gyntaf ar gyrsiau dwy flynedd o fis Medi 2012).

Yng Nghymru, bydd y canolfannau'n gallu dewis dilyn y naill neu'r llall o'r ddau ddewis sydd ar gael ar gyfer cyrsiau sy'n cychwyn ym mis Medio 2012:

  • manylebau llinol (dyfarniad cyntaf haf 2014), lle mae'r ymgeiswyr yn sefyll eu harholiadau i gyd ar ddiwedd y cwrs
  • manylebau unedol sy'n bodoli eisoes gan gael eu hasesu mewn unedau ar wahân ar wahanol adegau yn ystod y cwrs fel y gwneir ar hyn o bryd

Dogfennau Allweddol

Asesu dan Reolaeth

Rhoir cyngor manwl ynglŷn â gweinyddu'r asesiad dan reolaeth ar dudalennau 14-18 o'r fanyleb. Mae tasgau a meini prawf yr asesiad dan reolaeth i'w canfod ar dudalennau 19-16.

Adnoddau

  • Rydym wedi datblygu “E” lyfr cynhwysfawr sy’n cyfateb yn agos â’r fanyleb, a byddwn yn ei anfon i ganolfannau ar gais.
  • Mae amrywiaeth eang o adnoddau ar gael yn rhad ac am ddim trwy GCaD-Cymru.
  • Mae cyn-bapurau a chynlluniau marcio ar gael yn rhad ac am ddim i athrawon ar ein Gwefan Ddiogel.
  • Gellir cael adnoddau eraill trwy ein Siop arlein.

Datblygiad Proffesiynol Parhaus

Cyhoeddir dyddiadau’r DPP ar gymedroli asesiad mewnol yn fuan ar gyfer y flwyddyn academaidd i ddod. Darperir yr adolygiad arholiadau ar-lein; bydd mwy o fanylion ar gael maes o law.

Cynhelir rhaglen reolaidd o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus bob tymor yr hydref gan uwch arholwyr ac athrawon sy’n dysgu’r cyrsiau.

Gellir bwcio cyrsiau hyfforddiant DPP arlein.

Am fanylion pellach, cysylltwch â:

Mike Neale - Swyddog Pwnc
Ffôn: 029 2026 5315 
E-bost: michael.neale@wjec.co.uk

Bob Harding- Swyddog Cefnogaeth Pwnc
Ffôn: 029 2026 5097
E-bost: bob.harding@wjec.co.uk 
 

Rhowch wybod i mi

Tanysgrifiwch i gael gwybod trwy e-bost am newyddion a datblygiadau yn y pwnc yma.
Efallai y byddwn am ddefnyddio eich cod post er mwyn anfon gwybodaeth atoch am faterion perthnasol yn eich ardal.