I edrych ar ddogfen PDF ar y dudalen hon byddwch angen Adobe Acrobat Reader
Mathemateg TGAU
TGAU mewn Mathemateg 2010
TGAU Mathemateg - Llinol newydd
Mae'r fanyleb TGAU Mathemateg - Llinol newydd i'w haddysgu o fis Medi 2010 nawr ar gael.
Mae'r manylebau a'r deunyddiau asesu enghreifftiol ar gael yma:
- TGAU Mathemateg - manyleb Llinol
- TGAU Mathemateg - deunyddiau asesu enghreifftiol Llinol
- TGAU Mathemateg - manyleb Unedol
- TGAU Mathemateg - deunyddiau asesu enghreifftiol Unedol
Mae gan y fanyleb Unedol 3 uned ac mae unedau 1 a 2 ar gael o haf 2011. Mae dwy haen gofrestru ar gyfer pob uned, Sylfaenol ac Uwch.
Mae gan y fanyleb Llinol 2 bapur i'w dyfarnu amy tro cyntaf o haf 2012. Mae dwy haen gofrestru, Sylfaenol ac Uwch.
Am wybodaeth pellach, cysylltwch â John Williams neu Rhian Williams. Gweler isod.
Tystysgrif Lefel 2 newydd CBAC mewn Mathemateg Ychwanegol
Bydd y cymhwyster yma, i'w ddysgu am y tro cyntaf o Fedi 2010, yn darparu cwrs o astudiaeth fydd yn her ac yn ymestyn yr ymgeiswyr Mathemateg mwyaf galluog. Bydd hefyd yn darparu cwrs addas ar gyfer ymgeiswyr sy'n llwyddo â TGAU Mathemateg yn gynnar.
Mae'r fanyleb a'r deunydd asesu prawf ar gael yma:
- Manyleb Tystysgrif Lefel 2 Mathemateg Ychwanegol - 2010
- Deunydd Asesu Prawf Tystysgrif Lefel 2 Ychwanegol - 2010
Nodwch fod manyleb Tystysgrif Lefel 2 mewn Mathemateg Ychwanegol - 2010 ond ar gael i ganolfannau yng Nghymru.
Am wybodaeth pellach, cysylltwch â John Williams neu Rhian Williams. Gweler isod.
Peilot Par Cysylltiedig
Yn ychwanegol i'r fanyleb TGAU uchod, bydd CBAC yn peilota par cysylltiedig TGAU Mathemateg.
Mae'r cymhwyster hwn yn estyniad i'r ddarpariaeth TGAU Mathemateg, i ffurfio cymhwyster dwyradd. I gael mwy o wybodaeth am gefndir y cymhwyster, ewch i wefan QCDA.
Bydd y peilot ond ar gael i nifer fechan o ganolfannau yng Nghymru.
Mae'r manylebau a'r deunydd asesu prawf ar gael yma:
- Manyleb TGAU Cymwysiadau Mathemateg
Cymwysiadau Mathemateg TGAU Deunydd Asesu Prawf - Manyleb TGAU Dulliau Mathemateg
Dulliau Mathemateg TGAU Deunydd Asesu Prawf
Mae tri darn ysgogi wedi'u cyhoeddi ar wefan QCDA
- Using contexts and models to support mathematical development
- What's in a task? Generating mathematically rich activity
- Connecting Mathematics with reality:connectng reality with Mathematics
Cynhyrchwyd y rhain er mwyn cefnogi'r canolfannau hynny sy'n cymryd rhan yn y peilot par cysylltiedig o TGAU. Fodd bynnag, maent yn debygol o fod yn berthnasol i'r holl ganolfannau sy'n cynllunio ar gyfer y rhaglen CA4 newydd a'r newidiadau i'r TGAU o fis Medi 2010.
Am wybodaeth pellach, cysylltwch â Betsan Jones neu Rhian Williams. Gweler isod.
Adnoddau cyfrwng Cymraeg
Mae'r manylebau a'r deunyddiau asesu enghreifftiol yn cael eu cyfieithu i'r Gymraeg ac fe fyddant ar gael yn fuan.
Manyleb gyfredol TGAU Mathemateg
Am fanylion y fanyleb gyfredol ar gyfer TGAU Mathemateg, gweler yr adran Ddogfennau ar y dudalen yma.
Marciau Unffurf - GMS
Mae gwybodaeth am drosi marciau crai'n farciau unffurf i'w gael yn y ddogfen ganlynol - Marciau Unffurf.
Am fanylion pellach, cysylltwch â:
John Williams - Swyddog Pwnc Mathemateg
Ffôn: 029 2026 5310
E-bost: john.williams@cbac.co.uk
Betsan Jones - Rheolwr Prosiect y Peilot Par Cysylltiedig
Ffôn: 029 2026 5318
E-bost: betsan.jones@cbac.co.uk
Rhian Williams - Swyddog Cefnogaeth Pwnc Mathemateg
Ffôn: 029 2026 5199
E-bost: rhian.williams@cbac.co.uk

