I edrych ar ddogfen PDF ar y dudalen hon byddwch angen Adobe Acrobat Reader
Mathemateg Lefel Mynediad
Mae CBAC yn cynnig Mathemateg Lefel Mynediad sydd ar gael i bob canolfan.
Mae’r cynllun asesu’n cynnwys gwaith cwrs a bennir gan y bwrdd (79% o’r marciau sydd ar gael) a phapur ysgrifenedig (21% o’r marciau sydd ar gael).
Bydd y cymhwyster hwn yn dod i ben ym mis Gorffennaf 2012. I gael gwybod am y cymwysterau sy'n cymryd ei le, cliciwch yma.
Gwaith Cwrs
Asesir y gwaith cwrs trwy’r cynllun asesu canlynol:
- Profion Canolradd 48%
- Profion Clywedol 5%
- Ymarferion Ymarferol 6%
- Tasgau Ymchwiliol 20%
Bydd y gwaith cwrs yn cael ei farcio gan y canolfannau a’i safoni’n allanol. Rhaid cyflwyno’r sampl gwaith cwrs i’r safonwyr ar ddechrau mis Mai ym mlwyddyn olaf y cwrs.
Arholiadau
Un papur 1¼ awr o hyd fydd yr arholiad allanol. Bydd y papur hwn yn cael ei osod a’i farcio’n allanol ym mis Mawrth ym mlwyddyn olaf y cwrs.
Bydd yr arholiad Tystysgrif Lefel Mynediad Mathemateg yn darparu cyrsiau sydd wedi’u cynllunio’n dda ac wedi’u seilio ar gwricwlwm sy’n fwy perthnasol i’r disgyblion hynny sydd ym mlynyddoedd olaf eu haddysg uwchradd y mae’r drefn fwy ffurfiol o addysg ac arholiadau ym amhriodol i’w galluoedd ac anghenion. Mae’r disgyblion hyn felly’n gallu datblygu gan fod amrywiaeth o brofiadau dysgu a strategaethau addysgu ac asesu wedi’u darparu ar eu rhan. Gellir felly annog datblygiad gwybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau ac agweddau sy’n berthnasol i fywyd oedolyn trwy’r strategaethau hyn.
Adnoddau
Mae adnoddau pellach ar gyfer y Lefel Mynediad Mathemateg ar gael trwy glicio ar GCaD Cymru.
Datblygiad Proffesiynol Parhaus
Cynhelir rhaglen reolaidd o DPP bob tymor yr hydref a gyflwynir gan uwch arholwyr. Mae rhagor o fanylion ynglyn â chyrsiau DPP ar gael yma.
Am fanylion pellach, cysylltwch â:
Betsan Jones - Swyddog Pwnc Mathemateg
Ffôn: 029 2026 5318
E-bost: betsan.jones@cbac.co.uk
Rhian Williams - Swyddog Cefnogaeth Pwnc
Ffôn: 029 2026 5199
E-bost: rhian.williams@cbac.co.uk
