I edrych ar ddogfen PDF ar y dudalen hon byddwch angen Adobe Acrobat Reader
Mathemateg a Phynciau Perthynol TAG UG/U
Mae CBAC yn darparu cymwysterau TAG Mathemateg sy'n cwrdd ag anghenion athrawon a gofynion y rheoleiddwyr yng Nghymru a Lloegr, a bydd yn parhau i wneud hynny.
Mae manyleb TAG Mathemateg CBAC yn dod yn gynyddol boblogaidd gyda chanolfannau yng Nghymru a Lloegr.
Mae gan y fanyleb TAG strwythur chwe uned.
Cynigir tair ar ddeg uned wahanol yn trafod Mathemateg Bur, Mathemateg Bur Bellach, Mecaneg ac Ystadegaeth.
DPP
Darperir yr adolygiad arholiadau ar-lein;bydd mwy o fanylion ar gael maes o law.
Cymwysterau UG
Mae cymwysterau UG â’r teitlau canlynol ar gael fel cyfuniad priodol o 3 uned.
- Mathemateg
- Mathemateg Bellach
- Mathemateg Bur
Cymwysterau Safon Uwch
Mae cymwysterau safon Uwch â’r teitlau canlynol ar gael fel cyfuniad priodol o unedau.
- Mathemateg
- Mathemateg Bellach
- Mathemateg Bur
Mae manylion llawn am y cyfuniadau o unedau a ganiateir wedi’u cynnwys yn y fanyleb.
O'r haf 2010, bydd A* ar gael yn y safon Uwch Mathemateg, safon Uwch Mathemateg Bellach a'r safon Uwch Mathemateg Bur.
Bydd angen i'r ymgeiswyr ennill o leiaf 480 GMU i gyd, ac;
- yn y safon Uwch Mathemateg, cyfanswm o 180 GMU o leiaf yn C3 ac C4
- yn y safon Uwch Mathemateg Bellach, cyfanswm o 270 GMU yn y tri gorau o M2, M3, S2, S3, FP2 ac FP3 a ddefnyddir i ddyfarnu safon Uwch Mathemateg Bellach
- yn y safon Uwch Mathemateg Bur, cyfanswm o 270 GMU yn C4, FP1 ac FP2
Adnoddau
- Dilynwch y linc yma i darganfod y Ffiniau gradd Crai / GMU
Mae gwybodaeth am drosi marciau crai'n farciau unffurf i'w chael yn y ddogfen ganlynol - Marciau Unffurf. - Mae cyn-bapurau a chymlluniau marcio ar gael yn rhad ac am ddim i athrawon ar ein safle ddiogel.
- Mae cyn-bapurau a chynlluniau marcio ar gael trwy'r Siop.
- Mae copi electronig o Lyfryn Fformiwlau yr arholiadau TAG U/UG Mathemateg ar gael i'w llwytho i lawr. Os hoffech gael copiau caled, cysyltwch â Rhian Williams (gweler y manylion isod).
Am fanylion pellach, cysylltwch â:
John Williams - Swyddog Pwnc Mathemateg
Ffôn: 029 2026 5310
E-bost: john.williams@cbac.co.uk
Rhian Williams - Swyddog Cefnogaeth Pwnc Mathemateg
Ffôn: 029 2026 5199
E-bost: rhian.williams@cbac.co.uk
