I edrych ar ddogfen PDF ar y dudalen hon byddwch angen Adobe Acrobat Reader
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu TGAU
Mae'n bleser gan CBAC gyhoeddi bod ein manylebau TGAU diwygiedig mewn TGCh i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2010 wedi'u hachredu gan y rheolyddion yng Nghymru a Lloegr.
Mae gan CBAC Gwrs Byr a Gradd Unigol ac mae 2 uned y cwrs byr yn is-set o'r radd unigol 4 uned. Manylebau modylol yw ein manylebau newydd ac fe'u hasesir gan gymysgedd o arholiadau (40%) ac aseiniadau dan reolaeth (60%) er mwyn darparu cymhwyster hyblyg a chyfoes a fydd yn denu dysgwyr. Bydd gwerslyfrau ac adnoddau ar-lein ar gael ynghyd â Chanllawiau i Athrawon i gefnogi'r cyflwyniad. Mae gan athrawon fynediad uniongyrchol i arbenigwyr pwnc er mwyn cael atebion i'w holl gwestiynau.
Mae APADGOS wedi cydnabod Cwrs Byr a TGAU Gradd Unigol CBAC fel cymwysterau galwedigaethol yng nghyd-destun yr opsiynau sy'n cael eu cynnig mewn cwricwla lleol cyfnod allweddol 4.
Cliciwch isod am gopi o'r fanyleb a deunyddiau asesu enghreifftiol.
Manyleb TGAU TGCh i'w Haddysgu o fis Medi 2010
Deunyddiau Asesu Enghreifftiol TGCh i'w Haddysgu o fis Medi 2010
Canllawiau Athrawon TGAU TGCh i'w Haddysgu o fis Medi 2010
Caiff Cwrs Llawn TGAU TGCh cyfredol CBAC ei asesu drwy arholiad allanol sy'n cynnwys dau bapur ysgrifenedig a dau waith cwrs. Mae'r asesiad allanol yn cyfrif am 40% o'r marciau a'r gwaith cwrs yn cyfrif am 60% o'r marciau. Mae'r gydran gwaith cwrs yn cynnwys Portffolio o waith (30%) a Phroject (30%).
Mae dwy haen i'r Cwrs Llawn, Uwch A*-D a Sylfaenol C-G.
Yn y Cwrs Byr ceir papur Un a'r gwaith cwrs Portffolio o'r Cwrs Llawn.
Gelli dod o hyd i ddeunyddiau atodol ac adnoddau ychwanegol yn rhad ac am ddim ar GCaD Cymru. Mae cyn-bapurau a chynlluniau marcio ar gael yn rhad ac am ddim i athrawon ar ein Gwefan Ddiogel. Gellir cael adnoddau pellach trwy ein Siop ar-lein.
Mae ein rhaglen o gyrsiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) yn dechrau ar 16eg Tachwedd. Cliciwch isod i fynd at y ffurflen archebu lle.
Ffurflen Archebu DPP TGAU TGCh
Marciau Unffurf (GMU) - Mae gwybodaeth am drosi marciau crai'n farciau unffurf i'w chael yn y ddogfen ganlynol - Marciau Unffurf.
Peilot TGAU TGCh (Cymru)
Mae CBAC ar hyn o bryd yn rhedeg cynllum peilot yng Nghymru i archwilio sut y gellir cryfhau'r TGAU TGCh er mwyn i'r 'hanfodion' gael eu sicrhau'n well trwy gryfhau'r TGAU; yn Lloegr mae'r Sgiliau Gweithredol wrthi'n cael eu peilota. Mae'r asesiad yn gyffredinol yn dilyn y patrwm TGAU presennol ond mae'n cynnwys Aseiniad dan Reolaeth yn hytrach na'r gwaith cwrs Portffolio.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch âr canlynol:
Swyddog Pwnc TGCh, Ian Carey
029 2026 5137
Swyddog Cefnogaeth Pwnc TGCh, Clare Williams
029 2026 5059
