I edrych ar ddogfen PDF ar y dudalen hon byddwch angen Adobe Acrobat Reader
Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu Lefel Mynediad
Mae cwrs Lefel Mynediad TGCh CBAC yn gynyddol boblogaidd gyda chanolfannau.
Asesir y cwrs trwy arholiad allanol sy’n cynnwys un papur ysgrifenedig, profion rheoledig a gwaith cwrs. Mae asesu allanol yn rhoi cyfrif am 20%, y profion rheoledig yn rhoi cyfrif am 40% a’r gwaith cwrs yn rhoi cyfrif am 40% o’r marciau.
Mae amrywiaeth eang o adnoddau ar gael yn rhad ac am ddim trwy GCaD Cymru. Mae cyn-bapurau a chynlluniau marcio ar gael yn rhad ac am ddim i athrawon ar ein Gwefan Ddiogel. Yn ogystal â'r rhain mae adnoddau eraill ar gael trwy ein Siop arlein.
Cynhelir rhaglen reolaidd o Datblygiad Proffesiynol Parhaus DPP bob tymor yr hydref a gyflwynir gan uwch arholwyr a rhai sy’n dysgu’r cyrsiau. Efallai y darperir y ddarpariaeth hon bob yn ail flwyddyn unwaith y bydd manyleb wedi ennill ei phlwyf.
Bydd y cymhwyster hwn yn dod i ben ym mis Gorffennaf 2012. I gael gwybod am y cymwysterau sy'n cymryd ei le, cliciwch yma.
Am fanylion pellach, cysylltwch â:
Swyddog Pwnc TGCh, Ian Carey
029 2026 5137
Swyddog Cefnogaeth Pwnc TGCh, Clare Williams
029 2026 5059
