I edrych ar ddogfen PDF ar y dudalen hon byddwch angen Adobe Acrobat Reader
Economeg y Cartref - Bwyd a Maeth TGAU
Bwriedir y fanyleb hon i roi cyfle i ymgeiswyr i ymestyn a chymhwyso eu sgiliau, gwybod a dealltwriaeth o fwyd a maeth i amrywiaeth o gyd-destunau. Bydd y fanyleb yn rhoi cyfleoedd i ymgeiswyr i ddatblygu eu meddwl beirniadol ac i reoli amrywiaeth o adnoddau er mwyn datblygu eitemau o fwyd sy'n addas i anghenion unigolion neu deuluoedd, ac i adnabod dylanwad tueddiadau presennol, y farchnad economi a newid technolegol.
NEWYDD: Cymeradwyo TGAU Economeg y Cartref (Bwyd a Maeth) llinol CBAC
Yn gyffredin â sefydliadau dyfarnu eraill, gofynnwyd i CBAC yn ddiweddar i ddiwygio manylebau TGAU er mwyn i’r asesu fod yn llinol.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod manyleb TGAU llinol CBAC mewn Economeg y Cartref – Bwyd a Maeth wedi cael ei chymeradwyo / eu cymeradwyo gan y rheoleiddwyr.
Mae’r cynnwys pwnc yn aros yr un peth. Yr unig wahaniaeth yw’r ffaith fod angen cymryd yr holl arholiadau ar ddiwedd y cwrs mewn manylebau llinol. Gallwch weld y fanyleb ddiwygiedig yma.
Y prif bwyntiau:
Bydd gofyn i BOB canolfan yn Lloegr ddefnyddio manylebau TGAU llinol o’r dyfarniad cyntaf yn 2014 (i’w haddysgu gyntaf ar gyrsiau dwy flynedd o fis Medi 2012).
Yng Nghymru, bydd y canolfannau’n gallu dewis dilyn y naill neu’r llall o’r ddau ddewis sydd ar gael ar gyfer cyrsiau sy’n cychwyn ym mis Medi 2012:
- manylebau llinol (dyfarniad cyntaf haf 2014), lle mae’r ymgeiswyr yn sefyll eu harholiadau i gyd ar ddiwedd y cwrs
- manylebau unedol sy’n bodoli eisoes gan gael eu hasesu mewn unedau ar wahân ar wahanol adegau yn ystod y cwrs fel y gwneir ar hyn o bryd
Dogfennau Allweddol
- Manyleb
- Deunyddiau Asesu Enghreifftiol
- Deunydd cefnogi athrawon
- Adnoddau DPP o Hydref 2010
- Ffurflenni Gwaith Cwrs
Asesiad dan Reolaeth
UNED 2 – Tasgau Ymarferol Bwyd a Maeth: i’w cyflwyno o fis Medi 2012
(i) Tasg 1 (20%)
(ii) Tasg 2 (40%)
(i) Tasg 1 Noder, nid oes unrhyw newid i dasg 1.
Bydd ymgeiswyr yn cwblhau un dasg wedi'i dewis o’r gronfa dasgau ganlynol. Yr amser a neilltuir i'r dasg hon yw 10 awr.
1. Mae ffrwythau a llysiau'n rhan hanfodol o'r deiet dyddiol. Archwiliwch a chynhyrchwch bedair saig i annog mwy o ddefnydd o ffrwythau a/neu lysiau.
2. Mae gan wyau swyddogaeth bwysig wrth baratoi a choginio bwyd. Archwiliwch a chynhyrchwch bedair saig sy’n dangos defnydd gwahanol o wyau.
3. Mae lleihau halen wrth goginio'n gallu cael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles. Archwiliwch a chynhyrchwch bedair saig sy'n hyrwyddo'r defnydd o gyflasynnau gwahanol.
(ii) Tasg 2 Mae'r dasg newydd wedi ei nodi mewn llythrennau trwm.
Bydd ymgeiswyr yn cwblhau un dasg wedi’i dewis o'r ddwy dasg ganlynol. Yr amser a neilltuir i'r dasg hon yw 20 awr.
NAILL AI
1.Caiff pobl ifanc yn eu harddegau eu hannog i ddilyn diet cytbwys a ffordd o fyw iach.
(a) Ymchwiliwch i bwysigrwydd diet cytbwys a ffordd o fyw iach i bobl ifanc yn eu harddegau.
(b) Datblygwch amrywiaeth o seigiau diddorol a allai fod yn rhan o ddiet cytbwys a ffordd o fyw iach pobl ifanc yn eu harddegau.
(c) Cynlluniwch gamau gweithredu ar gyfer gwneud detholiad o seigiau i bobl ifanc yn eu harddegau sy'n dilyn diet cytbwys a ffordd o fyw iach.
(ch) Gwnewch y detholiad o seigiau a'u cyflwyno.
(d) Gwerthuswch eich gwaith.
NEU
2. Mae grawnfwydydd yn gwneud cyfraniad pwysig i'r deiet.
(a) Ymchwiliwch i rôl grawnfwydydd yn y deiet.
(b) Datblygwch amrywiaeth o syniadau ar gyfer seigiau gan ddefnyddio grawnfwydydd.
(c) Cynlluniwch drefn gweithredu i wneud detholiad o seigiau gan ddefnyddio grawnfwydydd.
(ch) Gwnewch a chyflwynwch ddetholiad o seigiau.
(d) Gwerthuswch eich gwaith.
Adnoddau
- Mae cyn-bapurau a chynlluniau marcio ar gael yn rhad ac am ddim i athrawon ar ein Gwefan Ddiogel.
- Yn ogystal â'r rhain mae adnoddau eraill ar gael trwy ein Siop arlein.
- Cyflwyniad yn egluro’r defnydd o ddata ar lefel eitem arholiadau CBAC.
- Mae'r llawlyfr gweinyddiaeth ‘Cyfarwyddiadau ar gyfer gweinyddu a chynnal yr arholiadau Economeg y Cartref/Lletygarwch ac Arlwyo’ ar gael.
Datblygiad Proffesiynol Parhaus
Cyhoeddir dyddiadau’r DPP ar gymedroli asesiad mewnol yn fuan ar gyfer y flwyddyn academaidd i ddod. Darperir yr adolygiad arholiadau ar-lein; bydd mwy o fanylion ar gael maes o law.
Am fanylion pellach, cysylltwch â:
Allison Candy - Swyddog Pwnc
Ffôn: 029 2026 5093
E-bost: allison.candy@wjec.co.uk
Jeana Hayes - Swyddog Cefnogaeth Pwnc
Ffôn: 029 2026 5115
E-bost: jeana.hayes@wjec.co.uk
