Naid i'r cynnwys

 
 
 

Hanes A Lefelau:

Canfod cymwysterau ac adnoddau



Ffurflenni Gwaith Cwrs (Haf 2009)

Adroddiadau'r Arholwyr TGAU Haf 2008

Mae cyrsiau TGAU Hanes CBAC yn ddewisiadau poblogaidd gyda chanolfannau yng Nghymru a Lloegr.

Cynigir dwy fanyleb:

  • Mae Hanes Manyleb A yn cynnwys astudiaeth o amrywiaeth o astudiaethau manwl ac astudiaethau amlinellol o agweddau ar hanes Cymru/Lloegr a hanes y byd.
  • Mae Hanes Manyleb B yn cynnwys astudiaeth o themâu ac agweddau ar hanes Cymru/Lloegr a hanes y byd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif.

Mae deunyddiau ategol a deunyddiau Datblygiad Proffesiynol HMS ar gael yn rhad ac am ddim. Mae cyn-bapurau a chynlluniau marcio ar gael trwy'r Siop.

Mae gan Fanyleb A werslyfr poblogaidd sydd wedi ei ysgrifennu ar gyfer y cwrs. Mae hwn ar gael trwy’r Siop. Ar hyn o bryd, nid oes gan Fanyleb B destun cyfwerth, ond mae rhannau o lyfr Manyleb A yn berthnasol i rai o’r cyrsiau. Mae’r gwerslyfr ar gyfer yr opsiwn Chwaraeon, Hamdden a Thwristiaeth bellach wedi mynd allan o brint, ond mae CDromau o’r testun gwreiddiol ar gael trwy gysylltu â gwasg Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd ar 02920 416515 neu THi11@uwic.ac.uk

Gellir dod o hyd i ddeunyddiau pellach ar gyfer TGAU Hanes trwy GCaD Cymru.

Cynhelir rhaglen reolaidd o Ddatblygiad Proffesiynol HMS bob tymor yr hydref gan uwch arholwyr ac athrawon sy’n dysgu’r cyrsiau.

Am fanylion pellach, cysylltwch â:

Phil Star, Swyddog Pwnc Hanes, 029 2026 5125 

phil.star@wjec.co.uk

Steve James, Swyddog Cefnogaeth Pwnc Hanes, 029 2026 5029

steve.james@wjec.co.uk  

Rhowch wybod i mi

Tanysgrifiwch i gael gwybod trwy e-bost am newyddion a datblygiadau yn y pwnc yma.
Efallai y byddwn am ddefnyddio eich cod post er mwyn anfon gwybodaeth atoch am faterion perthnasol yn eich ardal.