I edrych ar ddogfen PDF ar y dudalen hon byddwch angen Adobe Acrobat Reader
Almaeneg TGAU
Mae'r dudalen TGAU Almaeneg yn cynnwys cysylltau cyflym â dogfennau penodol neu allweddol ar gyfer athrawon.
Mae CBAC yn darparu cymwysterau yng Nghymru a Lloegr sy'n cwrdd ag anghenion athrawon a gofynion y rheoleiddwyr yn y ddwy wlad. Bydd yn parhau i wneud hynny.
Datblygiad Proffesiynol Parhaus
Cyhoeddir dyddiadau’r DPP ar gymedroli asesiad mewnol yn fuan ar gyfer y flwyddyn academaidd i ddod. Darperir yr adolygiad arholiadau ar-lein; bydd mwy o fanylion ar gael maes o law.
Cymeradwyo TGAU Almaeneg llinol CBAC
Yn gyffredin â sefydliadau dyfarnu eraill, gofynnwyd i CBAC yn ddiweddar i ddiwygio manylebau TGAU er mwyn i’r asesu fod yn llinol
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod manyleb TGAU llinol CBAC mewn Almaeneg wedi cael ei chymeradwyo cymeradwyo gan y rheoleiddwyr.
Mae’r cynnwys pwnc yn aros yr un peth. Yr unig wahaniaeth yw’r ffaith fod angen cymryd yr holl arholiadau ar ddiwedd y cwrs mewn manylebau llinol. Gallwch weld y fanyleb ddiwygiedig yma.
Y prif bwyntiau:
- Bydd gofyn i BOB canolfan yn Lloegr ddefnyddio manylebau TGAU llinol o’r dyfarniad cyntaf yn 2014 (i’w haddysgu gyntaf ar gyrsiau dwy flynedd o fis Medi 2012).
- Yng Nghymru, bydd y canolfannau’n gallu dewis dilyn y naill neu’r llall o’r ddau ddewis sydd ar gael ar gyfer cyrsiau sy’n cychwyn ym mis Medi 2012:
• manylebau llinol (dyfarniad cyntaf haf 2014), lle mae’r ymgeiswyr yn sefyll eu harholiadau i gyd ar ddiwedd y cwrs
• manylebau unedol sy’n bodoli eisoes gan gael eu hasesu mewn unedau ar wahân ar wahanol adegau yn ystod y cwrs fel y gwneir ar hyn o bryd
- Mae CBAC yn cynnig manylebau llinol ac unedol.
- Yr un cynnwys sydd i’r ddau ddewis; yr unig wahaniaeth yw’r ffaith fod rhaid i‘r holl arholiadau gael eu cymryd ar ddiwedd y cwrs mewn asesu llinol.
Manylebau Unedol - TGAU
Mae'r fideo yn esbonio rheolau mynediad ac ail-sefyll ar gyfer manylebau TGAU unedol. Mae cynnwys y fideo ond ar gael yn uniaith Saesneg:
Manylebau Unedol – Fideo TGAU
E-asesu
Bydd yn bosibl i ddisgyblion sefyll yr arholiad TGAU gwrando fel prawf ar-sgrin (dewisol). I gael gwybod mwy am e-asesu, cysylltwch ag Laura Crook ar laura.crook@wjec.co.uk neu 029 20265 328.
Dogfennau pwysig:
- Cyfarwyddiadau ar gyfer cyflwyno asesiadau dan reolaeth
- Bwletin ITM 4
- Ffiniau gradd Crai / GMU
- TGAU Cyfeiriadur Uned
- Dyrannu Marciau Unffurf yn y TGAU
Dogfennau allweddol:
Manyleb
- Manyleb TGAU Unedol yn Almaeneg
- TGAU Llinol yn Almaeneg i’w hasesu o 2014
- Enghreifftiadau o Sgiliau Allweddol
Deunyddiau Asesu Enghreifftiol
Canllawiau Athrawon
Adroddiadau Arholwyr
Adnoddau Eraill
Noder na fydd pro fforma ar gyfer nodi'r cyngor a roddir i ymgeiswyr yn ystod y cyfnod paratoi ar gyfer yr asesiadau dan reolaeth yn cael ei ddarparu. Ni fydd yn rhaid i athrawon gofnodi ac anfon y cyngor hwn.
- Asesiad dan Reolaeth Siarad - Banc Tasgau 2013
- Asesiad dan Reolaeth Siarad - Banc Tasgau 2011
- Asesiad dan Reolaeth Ysgrifennu - Banc Tasgau 2013
- Cynllun Marcio Llafar yr Asesiad dan Reolaeth
- Cynllun Marcio Ysgrifennu yr Asesiad dan Reolaeth
- Cwestiynau Cyffredin
Mae cyn-bapurau a chynlluniau marcio ar gael yn rhad ac am ddim i athrawon ar ein Gwefan Ddiogel.
Am fanylion pellach, cysylltwch â:
Rhian Morgan - Swyddog Pwnc
Ffôn: 029 2026 5045
E-bost: rhian.morgan@cbac.co.uk
Claire Williams - Swyddog Cefnogaeth Pwnc
Ffôn: 029 2026 5031
E-bost: claire.williams@wjec.co.uk
