I edrych ar ddogfen PDF ar y dudalen hon byddwch angen Adobe Acrobat Reader
Almaeneg Lefel Mynediad
Mae cwrs Lefel Mynediad Almaeneg yn boblogaidd gyda chanolfannau yng Nghymru a Lloegr.
Mae'r cwrs wedi'i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd â lefelau cyrhaeddiad isel nad yw safon TGAU yn addas ar eu cyfer. Mae’r cwrs yn cynnig y cyfle i astudio amrywiaeth o opsiynau, sydd i ryw raddau yn adlewyrchu cynnwys y Fanyleb TGAU Almaeneg. Bydd llawer o ganolfannau hefyd yn dewis y cymhwyster Lefel Mynediad ar gyfer disgyblion Blwyddyn 9.
Bydd y cymhwyster hwn yn dod i ben ym mis Gorffennaf 2013. Cymwysterau ailosodiad, sy’n dechrau ym mis Medi 2011, bydd Llwybrau Mynediad.
Mwy o wybodaeth ac i weld y Manylebau Drafft
Asesu
Nid oes arholiad ar gyfer y cwrs hwn. Fe’i asesir yn gyfangwbl trwy asesiadau rheoledig sydd wedi’u lleoli yn yr ystafell ddosbarth.
Mae’r holl dasgau asesu ar gael ar-lein yn rhad ac am ddim neu o’r adran Lefel Mynediad.
Bydd y cymhwyster hwn yn dod i ben ym mis Gorffennaf 2012. Mae gwybodaeth ynglyn â'r cymwysterau sy'n cymryd ei le ar gael yma.
Adnoddau
- Mae rhagor o adnoddau addysgu ar gael trwy GCaD-Cymru.
Datblygiad Proffesiynol Parhaus
Cyflwynir rhaglen o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus gan uwch arholwyr a rhai sy’n dysgu’r cwrs. Bydd y cyrsiau DPP fel arfer yn cael ei gynnal bob yn ail flwyddyn.
Am fanylion pellach, cysylltwch â:
Karl Sage - Swyddog Pwnc
Ffôn: 029 2026 5124
E-bost: karl.sage@cbac.co.uk
Claire Williams - Swyddog Cefnogi Pwnc
Ffôn: 029 2026 5031
E-bost: claire.williams@wjec.co.uk
