I edrych ar ddogfen PDF ar y dudalen hon byddwch angen Adobe Acrobat Reader
Almaeneg TAG UG/U
Mae'r dudalen TAG Almaeneg yn cynnwys cysylltau cyflym â dogfennau penodol neu allweddol ar gyfer athrawon.
Mae CBAC yn darparu cymwysterau yng Nghymru a Lloegr sy'n cwrdd ag anghenion athrawon a gofynion y rheoleiddwyr yn y ddwy wlad. Bydd yn parhau i wneud hynny.
Uned 1 Arholiad Llafar, noder y canlynol:
Gall canolfannau sy'n cynnal eu profion llafar UG eu hunain agor y cardiau testun 3 diwrnod gwaith cyn yr arholiad.
GN2 - Gwrando, Darllen ac Ysgrifennu
Yn dilyn cais gan y rheoleiddwyr, mae gan Aufgabe 3, Teitl 2 saith cwestiwn ticio blwch gan ddilyn saith cwestiwn darllen a deall. Rhaid ateb y cwestiynau hyn yn Gymraeg neu’n Saesneg.
Uned 3 Arholiad Llafar, noder y canlynol:
Uned 3 Trafodaeth Strwythuredig
Bydd yr arholwr yn cynnig dewis o 2 garden ar hap i'r ymgeisydd. Bydd yr ymgeisydd, heb astudio'r cardiau, yn penderfynu pa deitl y mae'n dymuno paratoi.
Mân newidiadau i'r fanyleb
Noder y mân newidiadau canlynol i eiriad y fanyleb:
- GN1 (FN1 SN1) caiff y cardiau eu marcio'n unigol allan o 10 ar gyfer cyfathrebu.
- GN2 (FN2 SN2) caiff y traethawd ei farcio allan o 10 ar gyfer ansawdd ac yna caiff ei ddyblu, ond yn dilyn argymhellion archwiliad Ofqual, NI fydd yn bosibl yn awr dyfarnu hanner marciau.
- GN3 (FN3 SN3) Bydd y marciau cyfathrebu ar gyfer y cyflwyniad nawr allan o 30 (10 ar gyfer cyfathrebu ac ansawdd cynnwys y cyflwyniad; 10 ar gyfer ansawdd y drafodaeth a 10 ar gyfer ansawdd cyffredinol y cyfathrebu). Bydd y drafodaeth sy'n dilyn y datganiad yn para 10 munud ar y mwyaf.
- GN4 (FN4 SN4) Noder, fel y nodwyd yn y fanyleb, yn uned 4 bydd y Gwrando ac Ymateb yn cynnwys tasgau deall i'w hateb yn Gymraeg/Saesneg a bydd y Darllen ac Ymateb yn cynnwys 1 neu 2 ddarn gyda thasgau deall y bydd rhai ohonynt yn cael eu hateb yn Gymraeg/Saesneg.
Dogfennau pwysig:
- Ffiniau gradd Crai / GMU
- Rhestr osod o lyfrau, ffilmiau a rhanbarthau - 2013 a 2014
- Tabl GMU Manylebau TAG
- Dyrannu Marciau Unffurf yn y TAG
- Bwletin ITM 4
Dogfennau allweddol:
Manyleb
Deunyddiau Asesu Enghreifftiol
Canllawiau Athrawon
Adroddiadau Arholwyr
Adnoddau Eraill
- Mae cyn-bapurau a chynlluniau marcio ar gael yn rhad ac am ddim i staff dysgu ar ein gwefan ddiogel.
- Mae amrywiaeth eang o adnoddau ar gael yn rhad ac am ddim trwy GCaD Cymru.
- Mae adnoddau eraill ar gael trwy ein siop ar-lein.
Am wybodaeth pellach, cysylltwch â:
Karl Sage - Swyddog Pwnc
Ffôn: 029 2026 5124
E-bost: karl.sage@wjec.co.uk
Claire Williams - Swyddog Cefnogaeth Pwnc
Ffôn: 029 2026 5031
E-bost: claire.williams@wjec.co.uk
