I edrych ar ddogfen PDF ar y dudalen hon byddwch angen Adobe Acrobat Reader
Daearyddiaeth B TGAU
Tanysgrifiwch i gael gwybod am newyddion a datblygiadau yn y pwnc yma
Newyddion
Ebrill 2013
Newyddion Arholiadau i Fyfyrwr *Fersiwn ddiwygiedig yw hon a roddwyd ar y wefan ar 18/4/13*
Mae CBAC yn darparu cymwysterau TGAU Daearyddiaeth sy'n cwrdd ag anghenion athrawon a gofynion y rheoleiddwyr yng Nghymru a Lloegr, a bydd yn parhau i wneud hynny.
Cyhoeddir dyddiadau’r DPP ar gymedroli asesiad mewnol yn fuan ar gyfer y flwyddyn academaidd i ddod. Darperir yr adolygiad arholiadau ar-lein; bydd mwy o fanylion ar gael maes o law.
Ionawr 2013
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r samplau asesiad dan reolaeth cyflawn i’w safoni yw dydd Gwener 22ain Mawrth 2013. Fel yn 2012, bydd gofyn i ganolfannau gyflwyno’u marciau asesiad dan reolaeth drwy wefan ddiogel CBAC o 10fed Mawrth ymlaen. Unwaith y caiff yr holl farciau eu bwydo i mewn a’u cyflwyno, bydd y system ar-lein yn cadarnhau manylion yr ymgeiswyr hynny y mae angen anfon eu gwaith fel rhan o’r sampl. Fel yn 2012, dim ond ar y system ar-lein y bydd manylion cyfeiriad y safonwr ar gael. Gellir eu gweld unwaith y bydd y marciau wedi’u cyflwyno a’r sampl wedi’i chadarnhau.
Mae’r taflenni marciau a’r canllawiau perthnasol (CAB 1, CAB 2 a CAB 3), fel yn 2012, ar gael i’w llwytho i lawr a’u llenwi o’r dudalen ffurflenni Asesiad Mewnol / gwaith cwrs yma. Gweler y ddogfen Arweiniad a llinell amser Asesiad dan Reolaeth am ganllaw cam wrth gam i’r broses.
Mae deunyddiau a ddefnyddiwyd yn y cyfarfodydd DPP diweddar ar gael i athrawon yn awr ar wefan ddiogel CBAC.
Adroddiadau'r Arholwyr Haf 2012
Astudiaeth Gwaith Maes Afonydd - deall a defnyddio AA2.
Gallwch ddefnyddio'r cyflwyniad hwn gyda'ch myfyrwyr i'w helpu i ddeall sut mae dangos tystiolaeth o AA2 yn eu hymholiadau gwaith maes. Mae'r cyflwyniad yn defnyddio cyd-destun gwaith maes afonydd. Mae nodiadau i athrawon wedi'u cynnwys gyda phob sleid.
Cyflwyniad yn egluro’r defnydd o ddata ar lefel eitem arholiadau CBAC.
Ffiniau gradd Crai / GMU
Bwlettin athrawon Gorffennaf 2012
Gorffennaf 2012 - Achredir TGAU “Cryfach”
Yn unol â sefydliadau dyfarnu eraill, gofynnwyd i CBAC yn ddiweddar i adolygu manylebau TGAU i wneud yr asesu’n llinol. Hefyd, gofynnwyd i’r holl sefydliadau dyfarnu i “gryfhau” eu manylebau TGAU Daearyddiaeth. Mae’n falch gennym gyhoeddi bod TGAU Llinol Daearyddiaeth - Manyleb B CBAC wedi’i chymeradwyo gan y rheoleiddwyr. Mae Deunyddiau Asesu Enghreifftiol hefyd ar gael yn awr.
Cyhoeddir dyddiadau’r DPP ar gymedroli asesiad mewnol yn fuan ar gyfer y flwyddyn academaidd i ddod. Darperir yr adolygiad arholiadau ar-lein; bydd mwy o fanylion ar gael maes o law.
Mai 2012
- Sillafu, atalnodi a gramadeg Newidiadau i asesu sillafu, atalnodi a gramadeg TGAU Daearyddiaeth B CBAC
Yn ddiweddar, gofynnodd y rheoleiddwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i’r holl sefydliadau dyfarnu gynnwys asesiad o sillafu, atalnodi a gramadeg mewn rhai arholiadau TGAU Daearyddiath B o fis Ionawr 2013 ymlaen.
Mae’n bleser gan CBAC gadarnhau bod y rheoleiddwyr wedi derbyn y newidiadau i’r asesu’n ymwneud â’r gofyniad hwn.
Mae mwy o fanylion i’w cael yma. Mae deunyddiau asesu enghreifftiol diwygiedig ar gael yma. - Gofynnwyd i’r holl sefydliadau dyfarnu gryfhau asesiad y manylebau TGAU Daearyddiaeth presennol i’w haddysgu am y tro cyntaf yn 2012 (i’w hasesu am y tro cyntaf yn 2014). Cyflwynwyd manylebau diwygiedig gan CBAC i’r rheoleiddwyr i’w hailachredu. Ni dderbyniwyd cymeradwyaeth ar gyfer y TGAU Daearyddiaeth B hyd yn hyn. Mae CBAC yn gweithio’n galed i gwrdd â gofynion y rheoleiddiwr cyn gynted â phosibl. Hoffwn annog holl athrawon y fanyleb i danysgrifio i’r bwletin e-bost uchod er mwyn cael gwybod ar fyrder am unrhyw newidiadau unwaith y byddant wedi’u cytuno.
- Manylebau Unedol - TGAU
Mae'r fideo yn esbonio rheolau mynediad ac ail-sefyll ar gyfer manylebau TGAU unedol. Mae cynnwys y fideo ond ar gael yn uniaith Saesneg:
Manylebau Unedol – Fideo TGAU - Copi o’r map gwreiddiol y Cairngorms sydd ar y papur Datrys Problemau yn y Deunydd Asesu Enghreifftiol.
- Taflenni marcio a chanllawiau ar gyfer asesiad dan reolaeth
Cyrsiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus
Cyrsiau DPP Hydref 2012 (HMS)
Mae deunyddiau a ddefnyddiwyd yng nghyfarfodydd diweddar ar gael i lwytho i lawr o'n wefan ddiogel. Gallwch fewngofnodi trwy eich Swyddog Arholiadau pwy fydd yn darparu chi gydag allweddair i'r rhan yma o'r wefan. Mae rhai o'r adnoddau DPP ar gael yma hefyd.
Adnoddau / Dogfennau Allweddol
- Tudalen dangos pob dogfen sy'n cynnwys Manyleb, Deunyddiau Asesu Enghreifftiol, Canllawiau Athrawon, a.y.b.
- Ffurflenni Cais Penodi Arholwyr.
- Mae amrywiaeth eang o adnoddau ar gael yn rhad ac am ddim trwy GCaD-Cymru.
- Mae cyn-bapurau a chynlluniau marcio ar gael yn rhad ac am ddim i athrawon ar ein Gwefan Ddiogel.
- Gellir cael addnoddau hefyd trwy ein Siop ar-lein.
- Mae copïau o'r gwerslyfr un-pwrpas a'r canllaw adolygu ar gael drwy ddanfon e-bost i: sian.zakaria@hodder.co.uk
- Safle 'ning' ar gyfer TGAU Daearyddiaeth CBAC (Nid safle gan CBAC yw hwn - yn agor ffenest newydd).
- Cymdeithas Frenhinol Ddaearyddol
- Y Gymdeithas Ddaearyddol
Asesiad dan reolaeth
Mwy o wybodaeth
Mae gwybodaeth am drosi marciau crai'n farciau unffurf i'w chael yn y ddogfen ganlynol - Marciau Unffurf
Manylion pellach
Am fanylion pellach, cysylltwch â:
Andy Owen, Swyddog Pwnc Daearyddiaeth
029 2026 5114
andy.owen@wjec.co.uk
Andrew Williams, Swyddog Cefnogaeth Pwnc Daearyddiaeth
029 2026 5141
andrew.williams@wjec.co.uk
Mae Adroddiadau Safonwyr ar gael i’r canolfannau ar y wefan ddiogel ar y dudalen Mewnbynnu Marciau Asesiad Mewnol.
