Naid i'r cynnwys

 
 
 

Ffrangeg Lefelau:

Canfod cymwysterau ac adnoddau



Mae'r dudalen TAG Frangeg yn cynnwys cysylltau cyflym â dogfennau penodol neu allweddol ar gyfer athrawon.  

Mae CBAC yn darparu cymwysterau yng Nghymru a Lloegr sy'n cwrdd ag anghenion athrawon a gofynion y rheoleiddwyr yn y ddwy wlad. Bydd yn parhau i wneud hynny.

Uned 1 Arholiad Llafar, noder y canlynol:

Gall canolfannau sy'n cynnal eu profion llafar UG eu hunain agor y cardiau testun 3 diwrnod gwaith cyn yr arholiad.

Uned 3 Arholiad Llafar, noder y canlynol:

Uned 3 Trafodaeth Strwythuredig

Bydd yr arholwr yn cynnig dewis o 2 garden ar hap i'r ymgeisydd. Bydd yr ymgeisydd, heb astudio'r cardiau, yn penderfynu pa deitl y mae'n dymuno paratoi.

Noder y mân newidiadau canlynol i eiriad y fanyleb:

FN1 (GN1 SN1) caiff y cardiau eu marcio'n unigol allan o 10 ar gyfer cyfathrebu.

FN2 (GN2 SN2) caiff y traethawd ei farcio allan o 10 ar gyfer ansawdd ac yna caiff ei ddyblu, ond yn dilyn argymhellion archwiliad Ofqual, NI fydd yn bosibl yn awr dyfarnu hanner marciau.

FN3 (GN3 SN3) Bydd y marciau cyfathrebu ar gyfer y cyflwyniad nawr allan o 30 (10 ar gyfer cyfathrebu ac ansawdd cynnwys y cyflwyniad; 10 ar gyfer ansawdd y drafodaeth a 10 ar gyfer ansawdd cyffredinol y cyfathrebu).

Bydd y drafodaeth sy'n dilyn y datganiad yn para 10 munud ar y mwyaf.

FN4 (GN4 SN4) Noder, fel y nodwyd yn y fanyleb, yn uned 4 bydd y Gwrando ac Ymateb yn cynnwys tasgau deall i'w hateb yn Gymraeg/Saesneg a bydd y Darllen ac Ymateb yn cynnwys 1 neu 2 ddarn gyda thasgau deall y bydd rhai ohonynt yn cael eu hateb yn Gymraeg/Saesneg.

Dogfennau pwysig:

Dogfennau allweddol:

Manyleb

Deunyddiau Asesu Enghreifftiol

Canllawiau Athrawon

Adroddiadau Arholwyr

Adnoddau Eraill

  • Mae cyn-bapurau a chynlluniau marcio ar gael yn rhad ac am ddim i staff dysgu ar ein Gwefan Ddiogel.
  • Mae amrywiaeth eang o adnoddau ar gael yn rhad ac am ddim trwy GCaD Cymru.
  • Mae adnoddau eraill ar gael trwy ein Siop ar-lein.

Am wybodaeth pellach, cysylltwch â:

Swyddog Pwnc - Rhian Morgan 
rhian.morgan@wjec.co.uk / ffôn 029 2026 5045 

Swyddog Cefnogaeth Pwnc - Claire Williams
claire.williams@wjec.co.uk / 029 2026 5031

 

Rhowch wybod i mi

Tanysgrifiwch i gael gwybod trwy e-bost am newyddion a datblygiadau yn y pwnc yma.
Efallai y byddwn am ddefnyddio eich cod post er mwyn anfon gwybodaeth atoch am faterion perthnasol yn eich ardal.