I edrych ar ddogfen PDF ar y dudalen hon byddwch angen Adobe Acrobat Reader
Llenyddiaeth Saesneg Tystysgrif Lefel 1 / 2
Mae CBAC yn falch i gyhoeddi bod y newyddion diweddaraf a dderbyniwyd gan yr Adran Addysg (DfE) yn cadarnhau y bydd Tystysgrifau Lefel 1/2 CBAC mewn Saesneg Iaith a Llenyddiaeth Saesneg fel rhan o Fagloriaeth Lloegr (mesur perfformiad EBacc Lloegr) o 2014.
Effaith hyn yw:
• Cydnabod Lefel 1/2 CBAC mewn Saesneg Iaith yn yr EBacc fel Saesneg Iaith gyda’r un rheolau â TGAU (h.y. rhaid bod y disgybl wedi sefyll arholiadau Saesneg Iaith a Llenyddiaeth Saesneg ac wedi llwyddo i gael C neu uwch mewn Saesneg Iaith);
• Cydnabod Lefel 1/2 CBAC mewn Llenyddiaeth Saesneg yn yr EBacc os maent yn cael eu sefyll yn unig gyda chymhwyster Saesneg Iaith derbyniol [fel yr uchod].
Efallai bydd canolfannau’n dewis astudio TGAU Saesneg Iaith gyda Lefel 1/2 Tystysgrif Llenyddiaeth Saesneg neu fel arall, neu’n dewis astudio cymwysterau iaith a llenyddiaeth gyda sefydliadau dyfarnu gwahanol.
Bydd penderfyniadau sy’n ymwneud â mesurau perfformio o 2017 yn cael eu gwneud gan yr Adran Addysg ar sail ymgynghoriad diweddar ynghylch atebolrwydd uwchradd.
Mae prif nodweddion y cymwysterau hyn yn cynnwys:
- Asesiad llinol
- Asesiad allanol yn unig mewn darllen, ysgrifennu a Llenyddiaeth Saesneg
- Rhestr ddiddorol a newydd o destunau gosod
- Asesiad wedi’i seilio ar fodel profedig a phrofiadol CBAC
- Arholiadau seiliedig ar sgiliau sy’n rhoi hyblygrwydd sylweddol wrth addysgu
- Rhwyddineb cysylltu a chefnogaeth barod i’r pwnc
- Strwythur a gweinyddiaeth glir, didrafferth
Manylebau a deunyddiau asesu enghreifftiol
- Manyleb Tystysgrif Lefel 1 / Lefel 2 mewn Saesneg Iaith
- Manyleb Tystysgrif Lefel 1 / Lefel 2 mewn Llenyddiaeth Saesneg
- Deunyddiau Asesu Enghreifftiol Tystysgrif Lefel 1 / Lefel 2 mewn Saesneg Iaith
- Deunyddiau Asesu Enghreifftiol Tystysgrif Lefel 1 / Lefel 2 mewn Llenyddiaeth Saesneg
Anoddau a Chanllawiau i Athrawon
Adnoddau Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol
rhifyn 5
rhifyn 4
rhifyn 3
rhifyn 2
rhifyn 1
Am fanylion pellach, cysylltwch â:
Julia Harrison - Swyddog Pwnc
Ffôn: 029 2026 5074
E-bost: julia.harrison@wjec.co.uk
Charlotte Dix - Swyddog Cefnogaeth Pwnc
Ffôn: 029 2026 5051
E-bost: charlotte.dix@wjec.co.uk
