I edrych ar ddogfen PDF ar y dudalen hon byddwch angen Adobe Acrobat Reader
Saesneg TGAU
Haf 2010: Ffurflenni Gwaith Cwrs / Llawlyfr Asesu Mewnol
Manylebau i'w haddysgu gyntaf ym mis Medi 2010 bellach wedi'u hachredu
NEWYDD: Canllawiau i Athrawon
NEWYDD: Rheolau ar gyfer manylebau TGAU newydd – gofynion terfynol, ail-sefyll a chyfnewid
Enghreifftiau o nodiadau asesu dan reolaeth derbyniol ac annerbyniol
Fel pob corff dyfarnu, mae CBAC wedi diwygio ei fanylebau yn y maes pwnc Saesneg i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2010 (dyfarniad cyntaf 2012). Mae CBAC yn cynnig 3 chymhwyster yn y maes pwnc TGAU Saesneg:
- TGAU Saesneg
- TGAU Saesneg Iaith
- TGAU Llenyddiaeth Saesneg
Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod y manylebau hyn bellach wedi'u hachredu.
Nodweddion allweddol:
- Manylebau'n cael eu cynhyrchu ar ôl ymgynghor ag athrawon
- Cyswllt e-bost a ffôn uniongyrchol â'r swyddog pwnc a'r gefnogaeth weinyddol
- Gweinyddiaeth syml, effeithlon
- HMS yn cael ei gynnig trwy Gymru a Lloegr
- Asesu dibynadwy
- Y cynnwys yn caniatáu hyblygrwydd o ran penderfyniadau cofrestru
- Uwch dîm arholi dibynadwy a sefydlog
- Unedau ar wahân ar gyfer Darllen ac Ysgrifennu yn asesiad allanol y Saesneg / Saesneg Iaith yn caniatáu rheoli amser yn well yn yr arholiad a hyblygrwydd i ail-sefyll
- Canllawiau i athrawon ar-lein rhad ac am ddim yn cael eu paratoi
- CD sain o farddoniaeth yn y casgliad barddoniaeth
- Amrywiaeth eang o ddeunyddiau ar y gweill gan OUP a Heinemann, wedi'u hysgrifennu gan uwch arholwyr
Prif newidiadau i'r manylebau drafft
Y prif newidiadau i'r manylebau drafft a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf yw:
- Rhaid i ddau o'r tasgau siarad a gwrando yn Uned 4 (TGAU Saesneg a Saesneg Iaith) fod yn ymarferol o ran natur;
- Ni chaniateir ymateb llafar i'r astudiaeth iaith yn Uned 4 (TGAU Saesneg Iaith);
- Mae Heroes yn cymryd lle Private Peaceful fel testun gosod TGAU Llenyddiaeth Saesneg (Uned2);
- Yn y tri phwnc gellir defnyddio copïau heb eu hanodi o'r testunau darllen mewn sesiynau asesiad dan reolaeth (Uned 3;
- Yn y tri phwnc gellir defnyddio taflen maint A4 o nodiadau a wnaed gan y myfyriwr (nad yw'n cynnwys cynllun na drafft) mewn sesiynau asesiad dan reolaeth darllen (Uned 3).
Y manylebau llawn a'r deunyddiau asesu engrheifftiol
Cliciwch isod i weld y manylebau llawn a'r deunyddiau asesu enghreifftiol:
- Crynodeb o'r asesiad TGAU CBAC mewn Saesneg – i'w addysgu am y tro cyntaf 2010
- Crynodeb o'r asesiad TGAU CBAC mewn Saesneg Iaith – i'w addysgu am y tro cyntaf 2010
- Crynodeb o'r asesiad TGAU CBAC mewn Saesneg Llenyddiaeth – i'w addysgu am y tro cyntaf 2010
- Manyleb TGAU CBAC mewn Saesneg – i'w addysgu am y tro cyntaf 2010
- Manyleb TGAU CBAC mewn Saesneg Iaith - i'w addysgu am y tro cyntaf 2010
- Manyleb TGAU CBAC mewn Saesneg Llenyddiaeth - i'w addysgu am y tro cyntaf 2010
- Deunyddiau Asesu Enghrefftiol TGAU mewn Saesneg - i'w haddysgu am y tro cyntaf 2010
- Deunyddiau Asesu Enghrefftiol TGAU mewn Saesneg Iaith - i'w haddysgu am y tro cyntaf 2010
- Deunyddiau Asesu Enghrefftiol TGAU mewn Llenyddiaeth Saesneg - i'w haddysgu am y tro cyntaf 2010
- Cwestiynau Cyffredin - i'w haddysgu am y tro cyntaf 2010
Nodiadau pellach
Noder y canlynol:
- Ni fydd TGAU Saesneg ar gael yng Nghymru;
- Rhaid cofrestru disgyblion mewn ysgolion cynhaliol prif ffrwd yn Lloegr NAILL AI am y TGAU Saesneg NEU'R TGAU Saesneg Iaith a TGAU Llenyddiaeth Saesneg;
- Mae TGAU Saesneg a TGAU Saesneg Iaith yn gyfuniad gwaharddedig;
- Mae TGAU Saesneg a TGAU Llenyddiaeth Saesneg yn gyfuniad gwaharddedig;
- Rydym yn cynnig asesu unedol: cynigir yr unedau cyntaf yn yr Haf 2011, ond bydd y dyfarniad llawn cyntaf yn yr Haf 2012;
- Bydd y manylebau cyfredol yn cael eu cynnig i'w harholi am y tro olaf yn yr Haf 2011, gyda chyfle i ail-sefyll TGAU Saesneg yn unig ym mis Tachwedd 2011.
Mae manylion llawn yn y manylebau. Mae'r crynodeb o'r asesiad ar dudalen 2 pob llyfryn, sydd hefyd wedi'i roi i fyny ar wahân ar y wefan, yn rhoi golwg cyffredinol.
Cliciwch ar y cyswllt canlynol am fanylion y fanyleb bresennol:
Manyleb Saesneg TGAU (i'w harholi o 2009)
Am fanylion pellach, cysylltwch â:
Nancy Hutt - Swyddog Pwnc
Ffôn: 029 2026 5023
E-bost: nancy.hutt@wjec.co.uk
Matt Oatley - Swyddog Cefnogaeth Pwnc
Ffôn: 029 2026 5054
E-bost: matthew.oatley@wjec.co.uk
