I edrych ar ddogfen PDF ar y dudalen hon byddwch angen Adobe Acrobat Reader
Lletygarwch ac Arlwyo TGAU
Mae CBAC yn darparu cymwysterau TGAU Lletygarwch Ac Arlwyo sy'n cwrdd ag anghenion athrawon a gofynion y rheoleiddwyr yng Nghymru a Lloegr, a bydd yn parhau i wneud hynny.
Mae’r fanyleb hon yn cynnig cyfle unigryw i ymgeiswyr ddatblygu eu gwybodaeth ac estyn eu sgiliau mewn lletygarwch ac arlwyo mewn cyd-destun galwedigaethol. Mae’n gymhwyster addas i’r rheiny sydd am gael cefndir eang yn y maes hwn ac i’r rhai sydd am symud ymlaen i addysg bellach. Bydd yn baratoad gwerthfawr i’r rhai sy’n cychwyn ym myd gwaith. Mae’r fanyleb yn annog ymchwiliad ac astudiaeth mewn amrywiaeth o gyd-destunau mewn lletygarwch ac arlwyo gan ddefnyddio amrywiol dechnegau asesu i alluogi’r ymgeisydd i ymateb trwy waith ymarferol ac ymchwiliol.
NEWYDD: Cymeradwyo TGAU Lletygarwch Ac Arlwyo llinol CBAC
Yn gyffredin â sefydliadau dyfarnu eraill, gofynnwyd i CBAC yn ddiweddar i ddiwygio manylebau TGAU er mwyn i’r asesu fod yn llinol. Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod manyleb TGAU llinol CBAC mewnLletygarwch wedi cael ei chymeradwyo gan y rheoleiddwyr.
Mae’r cynnwys pwnc yn aros yr un peth. Yr unig wahaniaeth yw’r ffaith fod angen cymryd yr holl arholiadau ar ddiwedd y cwrs mewn manylebau llinol. Gallwch weld y fanyleb ddiwygiedig yma.
Y prif bwyntiau:
Bydd gofyn i BOB canolfan yn Lloegr ddefnyddio manylebau TGAU llinol o’r dyfarniad cyntaf yn 2014 (i’w haddysgu gyntaf ar gyrsiau dwy flynedd o fis Medi 2012).
Yng Nghymru, bydd y canolfannau’n gallu dewis dilyn y naill neu’r llall o’r ddau ddewis sydd ar gael ar gyfer cyrsiau sy’n cychwyn ym mis Medi 2012:
- manylebau llinol (dyfarniad cyntaf haf 2014), lle mae’r ymgeiswyr yn sefyll eu harholiadau i gyd ar ddiwedd y cwrs
- manylebau unedol sy’n bodoli eisoes gan gael eu hasesu mewn unedau ar wahân ar wahanol adegau yn ystod y cwrs fel y gwneir ar hyn o bryd
Hoffai CBAC gadarnhau y bydd y TGAU Lletygarwch ac Arlwyo yn parhau i fod ar gael yn Lloegr o fis Medi 2012. Yr unig newid yw'r newid i fod yn fanyleb linol (dyfarniad cyntaf haf 2014).
NEWYDD: TGAU Lletygarwch ac Arlwyo - Ffiniau gradd Crai/GMU.
Manyleb
Ymhlith nodweddion penodol y fanyleb gyfredol mae'r cyfle i astudio naill ai
- Arlwyo Gradd Unigol, neu
- Lletygarwch Gradd Unigol, neu
- Lletygarwch ac Arlwyo Dwyradd
- Cyfleoedd arholiad Ionawr a Mehefin
- Arholiad Uned 2 ar gael ar-lein
Dogfennau Allweddol
- Mae'r fanyleb a'r deunyddiau asesu enghreifftiol ar gael i'w llwytho i lawr.
- Mae Ffurflenni Gwaith Cwrs ar gael arlein.
- Mae deunydd cefnogi i athrawon ar gael arlein.
- Bwletin e-bost ynglŷn â'r cymhwyster newydd - Lefel 3 Gwyddor Bwyd a Maeth ar gael i'w ddarllen.
- Mae gwybodaeth am drosi marciau crai'n farciau unffurf i'w chael yn y ddogfen ganlynol - Marciau Unffurf.
Asesiad dan Reolaeth
Lletygarwch ac Arlwyo: i’w gyflwyno o fis Medi 2012
Uned 1 - Sgiliau Arlwyo cysylltiedig â pharatoi a gweini bwyd
Mae'r asesiad dan reolaeth wedi'i strwythuro fel a ganlyn:
Tasg 1 - (20%) Noder, nid oes unrhyw newid i Dasg 1.
Bydd ymgeiswyr yn dewis un o’r gronfa dasgau ganlynol.
- Mae cogyddion yn defnyddio amrywiaeth eang o ffrwythau a llysiau i ychwanegu lliw, blas a gwead i'w bwydlenni. Gan ddefnyddio ffrwythau a llysiau, cynhyrchwch a gweinwch bedair saig ddiddorol a fyddai'n boblogaidd gyda chwsmeriaid.
- Mae amrywiaeth eang o gynnyrch llaeth ar gael i gogyddion eu defnyddio. Gan ddefnyddio cynnyrch llaeth, cynhyrchwch a gweinwch ddwy saig felys a dwy saig sawrus a allai gael eu cynnwys ar fwydlen.
- Mae te prynhawn yn boblogaidd iawn ac yn ffordd ardderchog i gogyddion arddangos eu sgiliau cynhyrchu nwyddau wedi’u pobi. Paratowch, coginiwch a gweinwch bedair eitem y byddai’n bosibl eu cynnig fel rhan o fwydlen te prynhawn. Mae’n rhaid i un ohonyn nhw, o leiaf, fod yn sawrus.
Tasg 2 - (40%) Mae'r dasg newydd wedi ei nodi mewn llythrennau trwm.
Bydd ymgeiswyr yn dewis un o blith y gronfa ganlynol o dasgau. Rhaid i bob tasg ddarparu ar gyfer dau le bwrdd.
- Mae'r gwesty lleol yn eich ardal yn cynnal wythnos ryngwladol. Fel cogydd dan hyfforddiant cawsoch eich gwahodd i gymryd rhan a gofynnwyd i chi baratoi pryd dau gwrs o wlad o'ch dewis chi.
- Mae cogyddion enwog wedi bod yn hyrwyddo pwysigrwydd deiet iach. Fel arlwywyr ysgol/coleg gofynnwyd i chi gynhyrchu a gweini pryd dau gwrs a fyddai'n annog bwyta iach yn nhŷ bwyta'r coleg/ysgol.
Rydych wedi cael eich dewis i gynrychioli eich ysgol / coleg yng nghystadleuaeth ‘Cogydd Ifanc y Flwyddyn’. Mae gofyn i chi gynllunio, paratoi a gweini pryd dau gwrs i ddau berson sy’n addas i gwsmeriaid ag angen dietegol penodol.
(Rhaid i chi nodi’n glir yr angen dietegol penodol rydych yn bwriadu arlwyo ar ei gyfer a dweud pam rydych wedi’i ddewis.)
Uned 3 - Sgiliau lletygarwch cysylltiedig â digwyddiadau ac achlysuron: Tasg Wedi'i seilio ar Ddigwyddiad – (60%)
Bydd ymgeiswyr yn cwblhau ffolio unigol sy'n cofnodi un digwyddiad a gynlluniwyd ac a gynhaliwyd o blith y canlynol (dim newid o Fanyleb TGAU 2009). Rhaid i'r digwyddiad ddarparu ar gyfer lleiafswm o 10 o bobl.
- Mae llawer o elusennau'n dibynnu ar ddigwyddiadau codi arian. Ymchwiliwch, cynlluniwch a chynhaliwch ddigwyddiad codi arian.
- Mae dathliadau o bob math yn aml yn ddigwyddiadau mawr. Ymchwiliwch, cynlluniwch a chynhaliwch ddigwyddiad dathlu.
- Mae ysgolion a cholegau'n cynnal llawer o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn. Ymchwiliwch, cynlluniwch a chynhaliwch ddigwyddiad.
Adnoddau
- Mae adnoddau ar gael trwy ein Siop ar-lein gan gynnwys llyfrau newydd sy'n cefnogi cyrsiau Lletygarwch ac Arlwyo CBAC - WJEC Hospitality and Catering for GCSE second edition and WJEC GCSE Hospitality and Catering. Mae'r llyfr yn cynnwys yr holl wybodaeth y bydd ar fyfyrwyr ei hangen ar gyfer cyrsiau, cwestiynau adolygu ac awgrymiadau dysgu.
- Cyflwyniad yn egluro’r defnydd o ddata ar lefel eitem arholiadau CBAC.
- Mae Springboard hefyd yn cynhyrchu adnoddau amrywiol.
- Mae cyn-bapurau a chynlluniau marcio ar gael yn rhad ac am ddim i athrawon ar ein Gwefan Ddiogel.
- Bydd y llawlyfr gweinyddiaeth ‘Cyfarwyddiadau ar gyfer gweinyddu a chynnal yr arholiadau Economeg y Cartref/Lletygarwch ac Arlwyo’ ar gael ar y wefan agored o fis Tachwedd.
- Tasg 2 - Deunydd enghreifftiol yr Hen Fanyleb - mae elfennau o'r gwaith yn berthnasol i Uned 1 Tasg 2.
- Ffotograffau canlyniadau ymarferol o DPP 2010.
Datblygiad Proffesiynol Parhaus
Cyhoeddir dyddiadau’r DPP ar gymedroli asesiad mewnol yn fuan ar gyfer y flwyddyn academaidd i ddod. Darperir yr adolygiad arholiadau ar-lein; bydd mwy o fanylion ar gael maes o law.
Am fanylion pellach, cysylltwch â:
Allison Candy - Swyddog Pwnc
Ffôn: 029 2026 5127
E-bost: allison.candy@wjec.co.uk
Jeana Hayes - Swyddog Cefnogaeth Pwnc
Ffôn: 029 2026 5115
E-bost: jeana.hayes@wjec.co.uk
Arholiad electronig/ar-lein
Laura Crook - Swyddog Cefnogaeth E-asesu
Rhif ffôn: 029 2026 5328
E-bost: laura.crook@wjec.co.uk
