Naid i'r cynnwys

 
 
 

Canfod cymwysterau ac adnoddau



Ar gael hyd at haf 2013

Mae'r Lefel Mynediad ar gyfer y myfyrwyr hynny a allai fod yn tangyflawni oherwydd anawsterau dysgu neu ddadrithiad.  Mae'n benodol ar gyfer y myfyrwyr hynny nad ydynt wedi cyrraedd Lefel 3 ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3 y gallai'r TGAU neu GNVQ fod yn amhriodol ar eu cyfer, am ba bynnag reswm.

Prif nodweddion y cymwysterau Lefel Mynediad yw:

  • rhaglenni asesu wedi'u strwythuro'n briodol
  • manylebau a gefnogir gan adnoddau cyffrous a deniadol
  • strwythur cefnogi sy'n cynnwys cyrsiau DPP (HMS) rheolaidd
  • system adborth glir ar gyfer disgyblion ac athrawon
  • athrawon yn chwarae rhan weithredol fel cynhyrchwyr ac aseswyr cyrsiau

Mae'r Tystysgrif Lefel Mynediad wedi'u cynnwys erbyn hyn yn y Tablau Cyflawniad a Chyrhaeddiad Ysgolion a Cholegau, gyda'r sgorau canlynol:

  • Mynediad 3 - 14 pwynt
  • Mynediad 2 - 12 pwynt
  • Mynediad 1 - 10 pwynt

Mae hyn yn cymharu â 16 pwynt am Radd G a 22 pwynt am Radd F yn y TGAU llawn.

Caiff manylebau, deunyddiau adnoddau, technegau asesu a systemau adrodd eu cynllunio i bwysleidio'r hyn sy'n gadarnhaol ac i godi hunan-barch y disgyblion.  Gellir dysgu'r rhan fwyaf o'r manylebau ar y cyd â'u cywerthyddion TGAU ac maent yn rhan o'r Fframwaith Cymwysterau Cenedlarthol.  Maent i gyd wedi'u hachredu gan QCA/APADGOS/CCEA.

Bydd y cymhwyster hwn yn dod i ben ym mis Gorffennaf 2013.  Cymwysterau ailosodiad, sy'n dechrau ym mis Medi 2011, bydd Llwybrau Mynediad.

Newyddion

Estyniad i'r Manylebau Lefel Mynediad Cyfredol - Mae CBAC wedi cadw'r Manylebau Llwybrau Mynediad canlynol yn unol â'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn Lloegr a chyn cyhoeddi canlyniadau'r Adolygiad Cymwysterau yng Nghymru.

CBAC yn hysbysu canolfannau o statws y cymwysterau ar y wefan.

Am fwy o wybodaeth am ein darpariaeth Llwybrau Mynediad, cysylltwch a:

Ffôn: entrylevel@wjec.co.uk

Ebost: 029 2026 5444