I edrych ar ddogfen PDF ar y dudalen hon byddwch angen Adobe Acrobat Reader
Sgiliau Hanfodol Cymru
Mae'r cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) yn cynnwys Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a TGCh.
Bydd pob sgil yn cael ei asesu ar lefelau 1 – 4 trwy bortffolio fydd yn cael ei asesu'n fewnol a'i safoni'n allanol. I'r SHC Mynediad, gall y cyrff dyfarnu benderfynu ar eu dull asesu eu hunain. Asesiadau dan reolaeth wedi'u seilio ar dasgau yw dull asesu CBAC a gall canolfannau hefyd ddewis llunio'u tasgau eu hunain.
Cefnogaeth Safonau Newydd
Er mwyn cefnogi canolfannau mae CBAC:
- wedi dosbarthu'r Cyhoeddiadau Sgiliau Hanfodol Cymru ar CD
- wedi cynhyrchu portffolios 'Enghreifftiol'
- yn cynnig ymweld â chanolfannau i'w cefnogi, ac yn DPP hyfforddi yn y canolfannau
- wedi cynhyrchu tasgau ymarfer SHC Mynediad
Atgoffir canolfannau bod angen cwblhau a dychwelyd eu ffurflen Cofrestriad y Ganolfan 2012/2013 at Uned Sgiliau Allweddol/Sgiliau Hanfodol Cymru CBAC
Sgiliau Allweddol Ehangach
Ni fydd y Sgiliau Allweddol Ehangach – Gwella Eich Dysgu a'ch Perfformiad Eich Hun, Gweithio gydag Eraill a Datrys Problemau – yn newid yn awr tan 2014 pan y gallai safonau diwygiedig gael eu cyflwyno.
Manylion Cyswllt
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â:
Bryan Davies - Pennaeth yr Uned Sgiliau Allweddol/Sgiliau Hanfodol Cymru
Ffôn: 029 2026 5100/5172/5032/5382
Ffacs: 029 2026 5098
E-bost: bryan.davies@wjec.co.uk
Gellir gwneud cais am ymweliadau cefnogi a HMS wedi’i leoli yn y ganolfan. Am fanylion pellach ac am ymholiadau cyffredinol, anfonwch e-bost at yr Uned Sgiliau Allweddol/Sgiliau Hanfodol Cymru.
