I edrych ar ddogfen PDF ar y dudalen hon byddwch angen Adobe Acrobat Reader
Llwybrau (FfCCh)
Yn dilyn dwy flynedd o arbrofion gan yr Asiantaeth Datblygu Cymwysterau a Chwricwlwm, mae'r Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (FfCCh / QCF) newydd wedi'i gymeradwyo.
Mae hon yn ffordd i ymgeiswyr astudio unedau'n seiliedig ar gredyd sy'n gweddu i'w hanghenion unigol ac sy'n defnyddio eu talent i'r eithaf mewn maes pwnc.
Bwriad y QCF newydd yw creu ac achredu cymwysterau yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon. Ei nod yw bod yn hygyrch i ystod eang o ymgeiswyr o fewn y system cymwysterau galwedigaethol.
Manteision cymwysterau yn y QCF
Mae unedau a chymhwyster y QCF yn fuddiol i'w holl ddefnyddwyr gan eu bod:
- yn drosglwyddadwy
- yn hyblyg
- yn sicr eu hansawdd
- yn hawdd eu deall
- wedi'u hanelu at ddilyniant
Mwy o wybodaeth, cysylltwch a:
Ffôn: 029 2026 5444
E-bost: entrypathways@wjec.co.uk
