Naid i'r cynnwys

 
 
 

Project a Phroject Estynedig:

Canfod cymwysterau ac adnoddau



Mae CBAC wedi nodi yn y manylebau Project Sylfaen, Uwch ac Estynedig bod yn rhaid i bob Teitl Project gael ei gymeradwyo gan CBAC neu gan Gymeradwywr Awdurdodedig Teitl y Project CBAC.

Ym mlwyddyn gyntaf y cyflwyno, mae'n rhaid i bob teitl project gael ei gyflwyno i CBAC er mwyn ei gymeradwyo. Fodd bynnag, gan y bydd eich canolfan yn cyflwyno'r cymhwyster yn y blynyddoedd dilynol, byddai'n ddelfrydol pe bai aelod o'ch staff wedi'i hyfforddi fel Cymeradwywr Teitl y Project. Mae llawer o fanteision i gael aelod o staff wedi'i hyfforddi a'i awdurdodi/hawdurdodi i gymeradwyo teitlau project yn eich canolfan. Mae'r rhain yn cynnwys arbed amser, y gallu i roi adborth i ymgeiswyr yn gyflym, ac ymateb i anghenion dysgwyr yn fwy effeithiol.

Argymhellir yn gryf y dylid hyfforddi mai Cydlynydd Project eich canolfan ddylai yn gyntaf fel Cymeradwywr Teitl y Project, gan mai ef/hi fydd yr unigolyn sy'n goruchwylio cyflwyno'r cymwysterau project ar draws eich canolfan.

Mae CBAC wedi creu sesiwn hyfforddi ar-lein i alluogi aelodau o staff yn y canolfannau i ddod yn Gymeradwywr Teitl y Project awdurdodedig.

Gofynnir i gyfranwyr ateb rhai cwestiynau a chyflawni rhai ymarferiadau. Unwaith y bydd CBAC yn fodlon bod y cyfranogwr yn hyderus i gymeradwyo Teitlau Project, bydd ef/hi yn derbyn tystysgrif.

Gallwch ddewis bod yn Gymeradwywr Teitl y Project Sylfaenol, Uwch neu Estynedig. Mae'r broses gymeradwyo am bob lefel ar wahân.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Tessa Gabriel-Davies ar
029 2026 5191 neu drwy e-bost:tessa.gabriel-davies@wjec.co.uk

Dechreuwch eich hyfforddiant (i agor mewn ffenestr newydd)