I edrych ar ddogfen PDF ar y dudalen hon byddwch angen Adobe Acrobat Reader
Project a Phroject Estynedig
Mae'r Project Sylfaen, Uwch a Estynedig yn gymwysterau a gynigir lefelau 1 a 2, 3. Bydd y Project a'r Project Estynedig ar gael i fyfyrwyr yng Nghymru ac yn Lloegr fel cymwysterau annibynnol. Bydd y Project yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gyflawni astudiaeth fanwl yn seiliedig ar ddiddordeb personol neu ar agwedd mewn pwnc y maent yn ei astudio. Cefnogir pob dysgwr trwy gydol y broses gan oruchwyliwr a rhaglen ddysgu ac addysgu, a fydd yn darparu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer llwyddo. Mae'r Project Estynedig yn cyfateb i hanner Safon Uwch, ac yn denu hyd at 70 pwynt o ran tariff UCAS.
Bydd y Project yn cynnig opsiynau amserlennu hyblyg. Calif dysgwyr fwy o ddewis o ran eu hastudiaethau nag erioed a chyfle i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy defnyddiol.
Cymeradwyaeth teitlau project
Mae gofyn i ganolfannau gyflwyno teitlau eu projectau i CBAC er mwyn cael cymeradwyaeth yn y flwyddyn gyntaf o'i ddysgu. Mae fwy o wybodaeth ar gael yn y ddogfen dyddiadau allweddol cymeradwyaeth teitlau project.
Hyfforddiant ar-lein i gymeradwywyr teitlau Project
Mae'r hyfforddiant hwn wedi'i anelu at unrhyw un sy'n gweithio gyda dysgwyr sy'n dilyn Cymhwyster Project ar unrhyw un o't tair lefel (Estynedig, Uwch neu Sylfaen).
- Byddwch yn gymeradwywr teitlau Project eich canolfan.
- Hyfforddwch yn eich amser eich hun.
Sut i ddod yn Gymeradwywr Teitl y Project yn eich Canolfan
Cwestiynau a ofynir yn aml
1. Faint o amser dysgu ac addysgu sydd ynghlwm?
Bydd y Project yn cynnig opsiynau amserlennu hyblyg. Calif dysgwyr fwy o ddewis o ran eu hastudiaethau nag erioed a chyfle i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy defnyddiol.
| Oriau Dysgu dan Arweiniad | Rhaglen Addysgu a Dysgu | |
| Project Lefel 1 | 60 | O leiaf 30 awr |
| Project Lefel 2 | 60 | O leiaf 30 awr |
| Project Estynedig Lefel 3 | 120 | O leiaf 45 awr |
2. Beth yw'r dewisiadau posibl ar gyfer Projectau neu Brojectau Estynedig?
- Project ysgrifenedig - e.e. ymchwil i fater hanesyddol, gwleidyddol, cymdeithasegol, economaidd neu ddiwylliannol neu efallai waith ffuglennol, sgript ffilm neu theatr
- Astudiaeth maes - ymchwiliad wedi'i seilio ar ddata ee, mewn cyd-destun daearyddol
- Adroddiad gwyddonol wedi'i seilio ar ymchwil neu arbrofi
- Cyflwyniad wedi'i seilio ar gyfrwng ee, CD Rom neu DVD
- Cynhyrchu gwaith celf neu arteffact e.e. cerflun, ffotograffiaeth
- Project dylunio ee. adeiladwaith
- Gweithgaredd wedi'i seilio ar berfformiad ee. rôl mewn cynhyrchiad drama, ffilm
- Astudiaeth wedi'i seilio ar alwedigaeth ee, arloesi yn y gwaith, cynllun busnes
- Astudiaeth wedi'i seilio ar chwaraeon neu hamdden e.e. hyfforddi, perfformiad, dadansoddi sgiliau
Pam y dylech chi ddewis CBAC?
Bydd CBAC yn darparu amrediad llawn o gefnogaeth bersonol, ar-lein ac mewn print, yn cynnwys cyfleoedd i gael asesiadau ffurfiannol. Bydd ymarferwyr profiadol CBAC ar gael i ymweld â chanolfannau er mwyn rhoi cyngor ar ddylunio a datblygu projectau, a bydd staff arbenigol CBAC hefyd ar gael i drafod ymholiadau dros y ffôn.
Os hoffech gael gwybod mwy am sut y gall eich myfyrwyr elwa o'r Project neu'r Project Estynedig, cysylltwch a:
Tessa Gabriel-Davies
029 2026 5191
tessa.gabriel-davies@wjec.co.uk
