I edrych ar ddogfen PDF ar y dudalen hon byddwch angen Adobe Acrobat Reader
Cwestiynau cyffredin
Dyma gwestiynau cyffredin am y Bac Cymreig:
- Sut y bydd y Bac Cymreig yn helpu pobl ifanc ddatblygu yn y gwaith?
- Sut fydd y Bac Cymreig yn helpu pobl ifanc i lwyddo yn y brifysgol?
- Beth sydd ei angen ar y myfyriwr i dderbyn y Bac Cymreig?
Gofynion ar gyfer y Diploma Uwch
Gofynion ar gyfer y Diploma Canolradd
Gofynion ar gyfer y Diploma Sylfaen - Pryd y dechreuodd y Bac Cymreig?
- Pam ddylai pobl ifanc ddilyn y Bac Cymreig?
- Fydd hyn yn golygu mwy o arholiadau?
- Sut mae'r Bac Cymreig yn cael ei ddatblygu?
- Sut y cyflawnir lled a chydbwysedd yn y cwricwlwm?
- Beth yw bagloriaeth?
- Pa gefnogaeth mae ysgolion / colegau wedi derbyn?
- Pam rydym ni angen Bagloriaeth Cymru?
Sut y bydd y Bac Cymreig yn helpu pobl ifanc ddatblygu yn y gwaith?
Bydd myfyrwyr sy'n gadael yr ysgol neu'r coleg gyda'r Bac Cymreig wedi cael profiad ehangach a chyfoethocach na chynt.
Yn ogystal â'u harbenigedd pwnc, byddant wedi datblygu'r sgiliau allweddol, yn eu galluogi i gyfathrebu'n well, gweithio mewn tîm, defnyddio rhifau mewn cyd-destun ymarferol, defnyddio cyfrifiaduron, datrys problemau a gallu gwerthuso a gwella eu perfformiad eu hunain yn yr ysgol/coleg neu yn y gwaith. Byddant eisoes wedi cael profiad o weithio gyda chyflogwr ac wedi dod ar draws sgiliau entrepreneuraidd trwy'r gweithgaredd menter tîm.
Mae'r sgiliau hyn i gyd yn ategu'r arbenigedd pwnc benodol a ddatblygwyd ganddynt yn eu cyrsiau academaidd neu alwedigaethol.
Sut fydd y Bac Cymreig yn helpu pobl ifanc i lwyddo yn y brifysgol?
Bydd myfyrwyr sy'n gadael yr ysgol neu goleg â'r Bac Cymreig wedi cael profiad ehangach a chyfoethocach na chynt. Cydnabyddir hyn gan y 120 pwynt a ddyrannwyd i'r Craidd Bac Cymreig yn nhariff UCAS - yr hyn sy'n cyfateb i radd A yn y TAG safon Uwch.
Yn ogystal â'u harbenigedd pwnc byddant yn datblygu'r sgiliau allweddol, yn eu galluogi i gyfathrebu'n well, i weithio mewn tîm, i ddefnyddio rhifau mewn cyd-destun ymarferol, defnyddio cyfrifiaduron, datrys problemau a gallu gwerthuso a gwella eu perfformiad eu hunain yn yr ysgol/coleg neu yn y gwaith.
Byddant wedi ymgymryd ag Ymchwiliad Unigol yn defnyddio ymchwil a sgiliau dadansoddi, a byddant wedi cyflwyno eu casgliadau naill ai trwy adroddiad ysgrifenedig neu gyflwyniad llafar. Byddant yn barod am y math hwn o waith unigol, sy'n gyffredin i gyrsiau gradd.
Mae'r sgiliau hyn i gyd yn ategu'r wybodaeth a'r arbenigedd pwnc benodol a ddatblygwyd ganddynt yn eu cyrsiau academaidd a galwedigaethol.
Beth sydd ei angen ar y myfyriwr i dderbyn y Bac Cymreig?
Rhestrir isod y gofynion ar gyfer derbyn Diploma Bagloriaeth Cymru naill ai ar lefel Sylfaen, Canolradd neu Uwch. Bydd y graddau a enillir gan y myfyrwyr yn yr Opsiynau'n cael eu cydnabod fel y maent yn awr.
Gofynion ar gyfer y Diploma Uwch
I ennill Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru rhaid i fyfyrwyr gyflawni'r dystysgrif graidd a chymwysterau opsiynol:-
Tystysgrif Graidd ar lefel 3:
Tri sgil allweddol ar lefel 3, ynghyd â thri sgil allweddol arall ar lefel 2. rhaid i o leiaf un o'r sgiliau allweddol fod yn Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif neu TGCh
Cofnodion dyddiadur a lle y bo hynny'n berthnasol, ddatganiadau dilysu ar gyfer Addysg Bersonol a Chymdeithasol, Cymru, Ewrop a'r Byd (gan gynnwys y modiwl iaith) ac Addysg Gysylltiedig â'r Gwaith
Ymchwiliad Unigol ar lefel 3
Opsiynau
NVQ Lefel 3 neu Dystysgrif Genedlaethol BTEC ar lefel llwyddo, neu ddwy radd A-E yn y TAG safon Uwch neu gyfatebol
Noder: efallai na fydd rhai pethau cywerth, o ran NVQ, VCE, BTEC neu gymwysterau eraill, yn gwbl amlwg. Dylai canolfannau gyfeirio achosion o'r fath, neu ymholiadau tebyg, i CBAC
Gofynion ar gyfer y Diploma Canolradd
I ennill Diploma Canolradd Bagloriaeth Cymru rhaid i fyfyrwyr gyflawni'r dystysgrif graidd a chymwysterau opsiynol:-
Tystysgrif Graidd ar lefel 2
Pedwar sgil allweddol, dau ar lefel 2 a dau ar lefel 1. Rhaid i'r rhain gynnwys Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif a TGCh a thystiolaeth o fod wedi dilyn y chwe sgil allweddol
Cofnodion dyddiadur a lle y bo hynny'n berthnasol, ddatganiadau dilysu ar gyfer Addysg Bersonol a Chymdeithasol, Cymru, Ewrop a'r Byd (gan gynnwys y modiwl iaith) ac Addysg Gysylltiedig â'r Gwaith
Ymchwiliad Unigol ar lefel 2
Opsiynau
NVQ Lefel 2 neu BTEC Cyntaf ar lefel llwyddo, neu bedair gradd A*-C yn y TGAU neu gyfatebol (e.e. dwy TGAU 'dwyradd' neu dair TGAU ynghyd â dwy TGAU cwrs byr)
Noder: efallai na fydd rhai pethau cywerth, o ran NVQ, VCE, BTEC neu gymwysterau eraill, yn gwbl amlwg. Dylai canolfannau gyfeirio achosion o'r fath, neu ymholiadau tebyg, i CBAC.
Gofynion ar gyfer y Diploma Sylfaen
I ennill Diploma Sylfaen Bagloriaeth Cymru rhaid i fyfyrwyr gyflawni'r dystysgrif graidd a chymwysterau opsiynol:-
Tystysgrif Graidd ar lefel 1:
Pedwar sgil allweddol ar lefel 1, y mae'n rhaid iddynt gynnwys un o Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif a TGCh a thystiolaeth o fod wedi dilyn y chwe sgil allweddol
Cofnodion dyddiadur a lle y bo hynny'n berthnasol, ddatganiadau dilysu ar gyfer Addysg Bersonol a Chymdeithasol, Cymru, Ewrop a'r Byd (gan gynnwys y modiwl iaith) ac Addysg Gysylltiedig â'r Gwaith
Ymchwiliad Unigol ar lefel 1
Opsiynau
NVQ Lefel 1 neu Ddiploma Rhagarweiniol BTEC neu gyfatebol, neu o leiaf bedair gradd D-G yn y TGAU neu gyfatebol
Noder: efallai na fydd rhai pethau cywerth, o ran NVQ, VCE, BTEC neu gymwysterau eraill, yn gwbl amlwg. Dylai canolfannau gyfeirio achosion o'r fath, neu ymholiadau tebyg, i CBAC
Pryd y dechreuodd y Bac Cymreig?
Dechreuodd y myfyrwyr Bac Cymreig cyntaf eu rhaglenni ym mis Medi 2003 mewn 18 ysgol a choleg peilot. Cynigiwyd y Bac gan 6 ysgol a choleg newydd o fis Medi 2004, a 7 arall o fis Medi 2005; sy'n golygu bod 31 ysgol a choleg wedi cynnig y Bac yn ystod y cam peilota.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gosod y targed y bydd 25% o fyfyrwyr yng Nghymru yn dilyn y Bac Cymreig erbyn 2010.
Pam ddylai pobl ifanc ddilyn y Bac Cymreig?
Mae'r Bac Cymreig yn caniatáu i bobl ifanc ddatblygu'r chwe sgil allweddol y mae'r llywodraeth, cyflogwyr ac addysg uwch yn eu hystyried yn gynyddol bwysig i bobl ifanc.
Mewn arolwg diweddar o gyflogwyr trwy Gymru ('Future Skills Wales') nodwyd amrediad o sgiliau sy'n bwysig ar gyfer cyflogaeth a byw fel oedolyn.
Roedd y sgiliau hyn yn cynnwys Sgiliau Allweddol:
- Cyfathrebu
- Cymhwyso Rhif
- TG
- Gwella Eich Dysgu a'ch Perfformiad Eich Hun
- Gweithio gydag Eraill
Bydd myfyriwr sy'n gadael yr ysgol neu'r coleg gyda'r Bac Cymreig yn gallu dangos bod ganddo/ganddi'r sgiliau hyn trwy raglenni dysgu newydd a chyffrous.
Fydd hyn yn golygu mwy o arholiadau?
'Does dim 'arholiad' Bac Cymreig fel y cyfryw. Bydd y profiadau dysgu yn y Craidd a'r Opsiynau'n rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr gaffael eu sgiliau allweddol. Bydd pob myfyriwr yn casglu portffolio o dystiolaeth yn dangos sut mae eu sgiliau allweddol wedi datblygu. Byddant hefyd yn ymgymryd ag Ymchwiliad Unigol o agwedd ar y Craidd, a bydd hyn eto'n rhoi cyfle iddynt ddatblygu eu sgiliau allweddol.
Ym mhob un o'u Hopsiynau bydd y myfyrwyr yn sefyll yr arholiadau sydd eu hangen ar gyfer yr Opsiwn hwnnw.
Bydd cyflawniad y myfyriwr yn y Craidd (cyflawniad y Sgiliau Allweddol, yr Ymchwiliad Unigol a chwblhau'r gweithgareddau cwricwlwm) a'r Opsiynau yn cael eu cyfuno a'u cydnabod gan ddyfarniad Diploma'r Bac Cymreig.
Sut mae'r Bac Cymreig yn cael ei ddatblygu?
Datblygwyd y fanyleb ar gyfer y Bac Cymreig gan Dîm Project o addysgwyr gan ddefnyddio arbenigedd lle y bo angen gan unigolion a gweithgorau. Gwirfoddolodd ysgolion a cholegau i gymryd rhan fel canolfannau peilot.
Bydd athrawon a rheolwyr mewn ysgolion a cholegau peilot, dan arweiniad Cyd-gysylltydd Bac Cymreig , yn penderfynu ar raglen gyflwyno addas. Bydd Tîm y Project yn darparu cefnogaeth a datblygiad staff i'r canolfannau. Bydd adborth gan yr athrawon yn rhoi ffurf i'r Bac Cymreig.
Bydd gwerthusiad y Bac Cymreig yn golygu bod ysgolion a cholegau'n dysgu oddi wrth profiadau ei gilydd. Bydd y broses hon o ddatblygu a gwerthuso yn sicrhau y bydd model terfynol y Bac Cymreig yn cwrdd ag anghenion myfyrwyr ac athrawon yng Nghymru.
Sut y cyflawnir lled a chydbwysedd yn y cwricwlwm?
Bydd Craidd y Bac Cymreig yn darparu lled a chydbwysedd trwy amrywiaeth a chyfoeth y profiadau mae'n eu hyrwyddo. Bydd y Craidd yn sicrhau bod myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau allweddol trwy brofiadau diddorol a fydd yn ategu'r wybodaeth a sgiliau pwnc arbenigol y byddant yn eu caffael trwy'r Opsiynau.
Byddant yn cael y cyfle i:
- weithio gyda chyflogwyr
- datblygu sgiliau entrepreneuraidd
- cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol
- gwella eu sgiliau iaith
- gwella eu hyder personol
Bydd myfyrwyr hefyd yn cael digon o gyfleoedd i wneud defnydd arloesol o gyfrifiaduron a thechnolegau dysgu cyfoes eraill. Bydd cymryd rhan yn Cymru, Ewrop a'r Byd ac Addysg Bersonol a Chymdeithasol yn helpu'r myfyrwyr i ddeall materion perthnasol sy'n effeithio ar Gymru a'r byd ehangach ac yn rhoi'r hyder iddynt drafod y materion hyn pan fyddant yn symud ymlaen i addysg uwch neu gyflogaeth. Trwy'r modiwl iaith bydd ganddynt hefyd y cyfle naill ai i wella'r sgiliau sydd ganddynt yn barod neu ddechrau cwrs cwbl newydd.
Beth yw bagloriaeth?
Ceir sawl gwahanol math o fagloriaeth. Efallai y byddwch wedi clywed yn barod am y Fagloriaeth Ryngwladol, y Fagloriaeth Ewropeaidd neu'r Fagloriaeth Ffrengig. Maent i gyd yn wahanol fodelau o fagloriaethau.
Edrychodd astudiaeth ymchwil gan Brifysgol Caerfaddon ar gyfer Tîm Project Bagloriaeth Cymru ar gwricwla math bagloriaeth a chanfuwyd pedair nodwedd gyffredin:
- Rhaglen gwricwlwm ar gyfer addysg uwchradd uwch ac addysg bellach, tystysgrif adael yn aml
- Cymhwyster am fynediad i Addysg Uwch, cyflogaeth a sylfaen ar gyfer bywyd
- Cwricwlwm eang a chytbwys
- Craidd gorfodol yn cynnig profiad cyffredin ynghyd ag elfennau opsiynol/dewisol
Mae gan Fagloriaeth Cymru y pedair nodwedd hyn.
Pa gefnogaeth mae ysgolion / colegau wedi derbyn?
Mae'r gefnogaeth a ddarparwyd wedi cynnwys:
- HMS ar gyfer cyd-gysylltwyr CBC a'r tîmau athrawon sy'n cyflwyno
- Ariannu i gefnogi rhyddhau'r athrawon ar gyfer yr HMS hwnnw.
- Llawlyfr o Arweiniad sydd wedi'i gefnogi gan sesiynau HMS penodol.
- Swyddog Cyswllt o'r Tîm Project ac adborth gan safonwyr i ddarparu cyngor unigol i bob canolfan beilot.
- Ariannu gan Gynulliad Cymru i gyflwyno Craidd Bagloriaeth Cymru.
- Hyfforddiant ac arweiniad i'w ddarparu naill ai yn Gymraeg neu Saesneg yn ôl anghenion y ganolfan beilot.
- Nodi a rhannu arfer da er mwyn galluogi ysgolion a cholegau i ddysgu oddi wrth ei gilydd.
Bydd yr athrawon sy'n ymwneud â chyflwyno'r Bac Cymreig yn cael cyfle i gyfrannu at ei ddatblygiad.
Pam rydym ni angen Bagloriaeth Cymru?
Oherwydd dylid rhoi cyfle i bobl ifanc ddatblygu a chyflawni popeth y gallant a bydd Bagloriaeth Cymru'n rhoi fframwaith iddynt wneud hyn.
Datblygwyd model Bagloriaeth Cymru i drafod y canlynol:
- Cynhwysiant
- Cadw
- Cwblhau
- Cyrhaeddiad
Bydd y peilot yn cael ei werthuso i ddarganfod i ba raddau yr atebwyd yr amcanion hyn ganddo.
