I edrych ar ddogfen PDF ar y dudalen hon byddwch angen Adobe Acrobat Reader
Llwybrau (FfCCh) Ieithoedd Modern
O fis Medi 2012, mae CBAC yn cynnig cyfres o gymwysterau mewn chwe iaith:
- Ffrangeg
- Almaeneg
- Eidaleg
- Sbaeneg
- Japanaeg
- Mandarin
Maent ar gael ar y lefelau canlynol: Mynediad 3, Lefel 1 a Lefel 2. Mae pob uned yn gyfwerth â naill ai un credyd (10 awr o ddysgu) neu ddau gredyd (20 awr o ddysgu). Mae'n ofynnol cael un neu ddau gredyd ar gyfer pob Dyfarniad.
Mae'r uned yn ymdrin â phum thema:
- Cyfathrebu Gwybodaeth Bersonol
- Gweithgareddau Cymdeithasol
- Trefnu a Chynllunio
- Rhoi a Derbyn Gwybodaeth a Chyfarwyddiadau
- Addysg a Chyflogaeth
Gall pob thema gael cyd-destun cymdeithasol neu gyd-destun gwaith.
Sut mae cymwysterau FfCCh mewn Ieithoedd Modern CBAC yn perthyn i'r cwricwlwm?
Bydd y cymwysterau hyn yn rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ddewis a dethol themâu a lefelau yn unol ag anghenion dysgu unigol. Maent hefyd yn gosod sylfeini i symud ymlaen i gymwysterau ieithyddol eraill.
Gellir eu defnyddio i ymdrin â gofyniad iaith 20 awr Diploma Bagloriaeth Cymru ar Lefel Sylfaen, Canolradd ac Uwch.
Am fanylion pellach, cysylltwch â:
Karl Sage - Swyddog Pwnc
Ffôn: 029 2026 5124
E-bost: karl.sage@wjec.co.uk
