I edrych ar ddogfen PDF ar y dudalen hon byddwch angen Adobe Acrobat Reader
Cyfathrebu - Sgiliau Hanfodol Cymru
Tanysgrifiwch i gael gwybod am newyddion a datblygiadau yn y pwnc yma
Nod y safonau Cyfathrebu yw annog ymgeiswyr i ddatblygu ac arddangos eu sgiliau siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu i bwrpasau gwahanol.
Yn y bôn, mae’r safonau’n ymwneud â datblygu a chydnabod gallu ymgeiswyr i ddewis a chymhwyso sgiliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy’n briodol i’w cyd-destun penodol nhw. Fodd bynnag, gellir defnyddio’r safonau hefyd i helpu unigolion i wneud cysylltiadau â chyd-destunau llai cyfarwydd a datblygu eu gallu i symud ymlaen i lefelau cymhwysedd uwch.
Technegau a sgiliau
Mae technegau Cyfathrebu yn hanfodol, ond mae sgiliau cymhwyso yn hanfodol hefyd, megis gwneud penderfyniadau ynghylch perthnasedd ac ansawdd gwybodaeth ac ystyried pwrpas a chynulleidfa.
Cynlluniwyd y safonau er mwyn cydnabod cynnydd ymgeiswyr o ran y technegau sy’n gosod y sylfeini a’r sgiliau cymhwyso.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â:
Bryan Davies - Pennaeth yr Uned Sgiliau Allweddol/Sgiliau Hanfodol Cymru
Ffôn: 029 2025 5100/5172/5032/5382
E-bost: bryan.davies@wjec.co.uk
Ffacs: 029 2026 5098
