I edrych ar ddogfen PDF ar y dudalen hon byddwch angen Adobe Acrobat Reader
Lladin
Tystysgrifau Lefel 1 a Lefel 2 yn Yr Iaith Ladin, Yr Iaith Ladin a Gwareiddiad Rhufeinig a Llenyddiaeth Ladin
Diweddarwyd Ebrill 2010
Mae Tystysgrifau Lefel 1 a 2 Lladin CBAC yn darparu cyrsiau hyblyg a symbylol y gellir eu defnyddio fel 'cam' neu fel dewis arall i'r TGAU. Achredwyd y Tystysgrifau'n llawn ac maent wedi'u rhestru yn ôl Adran 96 am gyllid ac i'w hadrodd mewn Mesurau Perfformiad. Mae pob tystysgrif wedi'i graddio A*-C ar y lefel berthnasol a chanddi bwyntiau sy'n gyson â'r TGAU. (e.e. mae 40 pwynt perfformiad am Radd C yn y Dystysgrif Iaith Ladin Lefel 2).
Nodweddion Allweddol
Nodweddion allweddol yw:
- Uned Iaith Graidd ynghyd ag uned Iaith Ychwanegol yn arwain at Dystysgrif Iaith Ladin
- Uned Iaith Graidd ynghyd ag uned Gwareiddiad Rhufeinig yn arwain at Dystysgrif Iaith Ladin a Gwareiddiad Rhufeinig
- Caiff Llenyddiaeth Ladin ei chydnabod trwy Dystysgrif ddwy uned ar wahân
- Mae pob uned ar gael ar Lefel 1 a Lefel 2
- Opsiynau am unedau Asesu dan Reolaeth yng Ngwareiddiad Rhufeinig a Llenyddiaeth Ladin
Deunyddiau
Mae manylebau, deunyddiau asesu enghreifftiol, testunau gosod a ffynonellau ar gyfer y Tystysgrifau ar y ddwy lefel ar gael yma.
Am fanylion yr asesiadau cyntaf cliciwch yma.
Mae cefnogaeth bellach (gan gynnwys profwyr geirfa, testunau stori rhyngweithiol a deunyddiau atodol printiedig) ar gael gan Broject y Clasuron Ysgol Caergrawnt.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â:
Am fanylion pellach, cysylltwch â
E-bost - latin@wjec.co.uk
neu
Matt Oatley – Swyddog Cefnogaeth Pwnc
Ffôn: 029 2026 5054
E-mail - matthew.oatley@wjec.co.uk
