I edrych ar ddogfen PDF ar y dudalen hon byddwch angen Adobe Acrobat Reader
Lladin
Tystysgrifau Lefel 1 a Lefel 2 yn Yr Iaith Ladin, Yr Iaith Ladin a Gwareiddiad Rhufeinig a Llenyddiaeth Ladin
Mae CBAC yn falch o gyhoeddi bod yr Adran Addysg (DfE) yn Lloegr wedi cadarnhau y cydnabyddir Tystysgrifau Lefel 2 yn yr Iaith Ladin ac yn yr Iaith Ladin a Gwareiddiad Rhufain fel rhan o fesur perfformiad Bagloriaeth Lloegr (EBacc) o 2014.
Effaith hyn yw:
- Cydnabod Tystysgrif Lefel 2 CBAC yn yr Iaith Ladin fel iaith yn yr EBacc
- Cydnabod Tystysgrif Lefel 2 CBAC yn yr Iaith Ladin a Gwareiddiad Rhufain fel iaith yn yr EBacc
Bydd penderfyniadau sy’n ymwneud â mesurau perfformio o 2017 yn cael eu gwneud gan yr Adran Addysg ar sail ymgynghoriad diweddar ynghylch atebolrwydd uwchradd.
Mae’r holl wybodaeth am y cymwysterau hyn ar gael ar wefan CBAC –www.wjec.co.uk/latin. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r swyddog cefnogaeth pwnc, Matt Oatley (matthew.oatley@wjec.co.uk) neu’r swyddog pwnc, Alan Clague (alan.clague@wjec.co.uk).
Adroddiadau'r Arholwyr (Ionawr 2013)
Bwletin Athrawon (Chewfror 2013)
Mae CBAC yn darparu cymwysterau yng Nghymru a Lloegr sy'n cwrdd ag anghenion athrawon a gofynion y rheoleiddwyr yn y ddwy wlad. Bydd yn parhau i wneud hynny. Bydd y canolfannau sy’n cofrestru ymgeiswyr am y Tystysgrifau Lladin yn falch o wybod bod yr AA wedi cadarnhau bod y Tystysgrifau’n gymwysterau trwyadl a fydd yn parhau i gael eu cynnwys yn y cymwysterau hynny sy’n cyfrif at y Tablau Perfformiad hyd at ac yn cynnwys 2015. Dilynwch y cyswllt:
http://www.education.gov.uk/childrenandyoungpeople/youngpeople/qandlearning/otherqualifications/a00217137/14-16-performance-tables-2015.
Gall athrawon yn awr lwytho i lawr y deunyddiau a ddefnyddiwyd yn y digwyddiad DPP a gynhaliodd CBAC yn gynharach yn y tymor. Gellir cyrchu’r deunyddiau hyn o wefan ddiogel CBAC drwy ddethol ‘Llwytho Adnoddau PDF i Lawr’ o’r ddewislen ar yr ochr chwith, yna ‘Deunyddiau DPP (HMS) a dewis ‘Lladin’ o’r rhestr o bynciau.
Bwletin Athrawon (Hydref 2012)
Cyflwyniad yn egluro'r defnydd o ddata ar lefel eitem arholiadau CBAC
NEWYDD: Mae’n bleser gan CBAC hysbysu’r Canolfannau y bydd ei Dystysgrifau Lefel 1 a Lefel 2 mewn Lladin yn parhau i fod â’r pwyntiau perfformiad cyfredol yn 2014. Bydd y Tystysgrifau, gyda’r dewis o sesiynau ym mis Ionawr ac Asesu dan Reolaeth, yn cynnig mwy o hyblygrwydd na’r TGAU llinol newydd. Rydym yn dal i bwyso am gael cynnwys y Tystysgrifau Lefel 2 ym Magloriaeth Lloegr.
Mae Tystysgrifau Lefel 1 a 2 Lladin CBAC yn darparu cyrsiau hyblyg a symbylol y gellir eu defnyddio fel 'cam' neu fel dewis arall i'r TGAU. Achredwyd y Tystysgrifau'n llawn ac maent wedi'u rhestru yn ôl Adran 96 am gyllid ac i'w hadrodd mewn Mesurau Perfformiad. Mae pob tystysgrif wedi'i graddio A*-C ar y lefel berthnasol a chanddi bwyntiau sy'n gyson â'r TGAU. (e.e. mae 40 pwynt perfformiad am Radd C yn y Dystysgrif Iaith Ladin Lefel 2).
Nodweddion Allweddol
Nodweddion allweddol yw:
- Uned Iaith Graidd ynghyd ag uned Iaith Ychwanegol yn arwain at Dystysgrif Iaith Ladin
- Uned Iaith Graidd ynghyd ag uned Gwareiddiad Rhufeinig yn arwain at Dystysgrif Iaith Ladin a Gwareiddiad Rhufeinig
- Caiff Llenyddiaeth Ladin ei chydnabod trwy Dystysgrif ddwy uned ar wahân
- Mae pob uned ar gael ar Lefel 1 a Lefel 2
- Opsiynau am unedau Asesu dan Reolaeth yng Ngwareiddiad Rhufeinig a Llenyddiaeth Ladin
Deunyddiau
Mae manylebau, deunyddiau asesu enghreifftiol, testunau gosod a ffynonellau ar gyfer y Tystysgrifau ar y ddwy lefel ar gael yma.
Am fanylion yr asesiadau cyntaf cliciwch yma.
Mae cefnogaeth bellach (gan gynnwys profwyr geirfa, testunau stori rhyngweithiol a deunyddiau atodol printiedig) ar gael gan Broject y Clasuron Ysgol Caergrawnt.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â:
Am fanylion pellach, cysylltwch â
Alan Clague - Swyddog Pwnc
E-mail - alan.clague@wjec.co.uk
Matt Oatley – Swyddog Cefnogaeth Pwnc
Ffôn: 029 2026 5054
E-mail - matthew.oatley@wjec.co.uk
