Naid i'r cynnwys

 
 
 

Llywodraeth a Gwleidyddiaeth Lefelau:

Canfod cymwysterau ac adnoddau



Mae CBAC yn cynnig cwrs TAG mewn Llywodraeth a Gwleidyddiaeth. Datblygwyd y fanyleb newydd hon mewn ymateb i gais athrawon a darparwyr addysg uwch am fanyleb sydd yn rhoi ystyriaeth briodol i ddatblygiad datganoli yng Nghymru.

Nod manyleb CBAC ydy datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ymgeiswyr o'r system wleidyddol yng Nghymru ac yn y DU. Datblygwyd un uned, GP2 - Llywodraethu Cymru Fodern, yn benodol er mwyn mynd i'r afael ag anghenion canolfannau yng Nghymru i astudio datblygiad sefyllfa wleidyddol Cymru o fewn y DU ers datganoli yn 1997.

Mae CBAC yn darparu cymwysterau TAG Llywodraeth a Gweleidyddiaeth a sy'n cwrdd ag anghenion athrawon a gofynion y rheoleiddwyr yng Nghymru a Lloegr, a bydd yn parhau i wneud hynny.

Datblygiad Proffesiynol Parhaus

Mae deunydd DPP (HMS) 2012 ar gael i athrawon ei gyrchu ar y Wefan Ddiogel nawr.  Os nad ydych yn gallu cyrchu'r wefan ddiogel eto, cliciwch yma am fanylion pellach.

Cyhoeddir dyddiadau’r DPP ar gymedroli asesiad mewnol yn fuan ar gyfer y flwyddyn academaidd i ddod. Darperir yr adolygiad arholiadau ar-lein; bydd mwy o fanylion ar gael maes o law.

Adnoddau / Dogfennau Allweddol

Cyfeiriadur Unedau TAG 2010-2012
 

Mae Cyfeiriadur Unedau newydd ar gael i'w llwytho i lawr. Mae'r ddogfen hon yn rhoi gwybodaeth i chi ynglŷn â rheolau cofrestru, dewisiadau haenau yn ogystal â phwyntiau gradd GMU pob Uned a'r pwnc yn gyffredinol. 

Marciau Unffurf

Mae gwybodaeth am drosi marciau crai'n farciau unffurf i'w chael yn y ddogfen ganlynol - Marciau Unffurf.

Am fanylion pellach, cysylltwch â:

Elin Angharad - Swyddog Pwnc
Ffôn; 029 2026 5302
E-bost: elin.angharad@cbac.co.uk

Alexander Brown - Swyddog Cefnogaeth Pwnc
Ffôn: 029 2026 5094
E-bost: alexander.brown@wjec.co.uk

Rhowch wybod i mi

Tanysgrifiwch i gael gwybod trwy e-bost am newyddion a datblygiadau yn y pwnc yma.
Efallai y byddwn am ddefnyddio eich cod post er mwyn anfon gwybodaeth atoch am faterion perthnasol yn eich ardal.