I edrych ar ddogfen PDF ar y dudalen hon byddwch angen Adobe Acrobat Reader
Paratoi am Fywyd Gwaith TGAU (Cwrs byr)
Bwriad y fanyleb yw cefnogi fframwaith Gyrfaoedd a Byd Gwaith ar gyfer rhai 11 i 19 mlwydd oed yng Nghymru trwy gynnig cydnabyddiaeth o gyrhaeddiad gan fyfyrwyr yn y maes hwn o'r cwricwlwm trwy gymhwyster TGAU.
Mae'r TGAU Cwrs Byr hwn wedi'i achredu ar hyn o bryd i'w ddefnyddio yng Nghymru yn unig.
NEWYDD: Ffiniau gradd Crai/GMU
NEWYDD: Noder fod un ddeddf sef y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 wedi cymryd lle'r deddfau gwrthwahaniaethol blaenorol. Manylion pellach am Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Efallai y bydd hyn yn berthnasol wrth astudio Uned 1 Arferion Gweithio.
Dogfennau Allweddol
- Mae ffurflenni asesiad dan reolaeth ar gael arlein.
- Mae gwybodaeth am drosi marciau crai'n farciau unffurf i'w chael yn y ddogfen ganlynol - Marciau Unffurf.
Asesiad dan Reolaeth
Cynghorir athrawon i ddarllen tudalennau 14 i 18 y fanyleb am gyngor manwl ynglyn â gweinyddu asesiad dan reolaeth Uned 2.
Mae'r tasgau asesiad dan reolaeth wedi'u hargraffu ar dudalenau 9 a 10 y fanyleb. Mae meini prawf yr asesiad dan reolaeth wedi'u hargraffu ar dudalennau 19 i 22 y fanyleb.
Datblygiad Proffesiynol Parhaus
Cynhelir cyrsiau dan arweiniad y prif arholwyr yn trafod materion allweddol yn y fanyleb newydd yn ystod yr Hydref.
Mae mwy o fanylion ynglyn â'r cyrsiau DPP ar gael yma.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Stephen Oliver- Swyddog Pwnc
Ffôn: 029 2026 5038
E-bost: stephen.oliver@wjec.co.uk
Bob Harding- Swyddog Cefnogaeth Pwnc
Ffôn: 029 2026 5097
E-bost: bob.harding@wjec.co.uk
