I edrych ar ddogfen PDF ar y dudalen hon byddwch angen Adobe Acrobat Reader
Cemeg TGAU
Mae’r TGAU Cemeg yn un o fanylebau Gwyddoniaeth newydd CBAC, a fwriadwyd i helpu athrawon weithio’u ffordd trwy ofynion y meini prawf TGAU Gwyddoniaeth mewn ffordd glir a chyfeillgar i’r defnyddiwr.
Newyddion:
Marciau Unffurf (GMU)
Mae gwybodaeth am drosi marciau crai'n farciau unffurf i'w chael yn y ddogfen ganlynol - Marciau Unffurf.
Noder bod cylchlythyr sy'n ymwneud a Gwaith Cwrs TGAU Gwyddoniaeth wedi ei anfon at ganolfannau ac mae hefyd ar gael trwy glicio at y cyswllt canlynol. Cylchlythyr 169.
Mae'r manylion am Safonwyr TGAU Gwyddoniaeth 2009 wedi'u hanfon at ganolfannau. Am wybodaeth bellach cysylltwch â Swyddog Arholiadau.
Gallwch ganfod y dyddiadau cyflwyno trwy glicio ar y cyswllt hwn.
Mae pob prawf ymarferol asesu mewnol ar gyfer 2009-2010 ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ar y Wefan Ddiogel.
Mae rheolau 'cyfnewid' y TGAU Gwyddorau wedi newid. Cliciwch yma am wybodaeth.
Mae amrywiaeth eang o adnoddau ar gael yn rhad ac am ddim trwy GCaD-Cymru. Mae cyn-bapurau a chynlluniau marcio ar gael yn rhad ac am ddim i athrawon ar ein Gwefan Ddiogel. Yn ogystal â'r rhain mae adnoddau eraill ar gael trwy ein Siop arlein. Ceir gwerslyfr hefyd i gydfynd â manylebau Gwyddoniaeth CBAC a gyhoeddwyd gan Hodder Murray sydd ar gael trwy ein Siop.
Am wybodaeth ar ffiniau Gradd TGAU cliciwch ar y cysylltiau canlynol (uned 1, uned 2, uned 3) (Asesiadau Mewnol - Gwyddoniaeth, Gwyddoniaeth Ychwanegol, Cemeg)
Am ddeunyddiau asesiad mewnol ewch i restr lawn y dogfennau.
Am fanylion pellach, cysylltwch â
Jonathan Owen, Swyddog Pwnc
029 2026 5057
jonathan.owen@wjec.co.uk
