I edrych ar ddogfen PDF ar y dudalen hon byddwch angen Adobe Acrobat Reader
Cymraeg i Oedolion - Sylfaen
Dyma'r all isaf y gellir sefyll arholiad arni. Byddwch chi'n barod i sefyll yr arholiad hwn ar ô1 gorffen Cwrs Sylfaen (CBAC), neu Dosbarth Nos 21-39 neu ar ôl gorffen y Cwrs Wlpan.
Mae sawl rhan i'r arholiad, yn profi'r sgiliau iaith dych chi'n eu dysgu yn eich dosbarth Cymraeg. Ceir rhagor o wybodaeth yn y llyfryn i'r ymgeiswyr (dwyieithog) a manylion yn y fanyleb i diwtoriaid (Cymraeg) ar y dudalen hon.
Y ffordd orau i sicrhau eich bod yn barod i sefyll yr arholiad yw edrych ar y cyn-bapurau, ac ymarfer rhai ohonyn nhw gyda'ch tiwtor. Bydd eich tiwtor hefyd yn gallu esbonio i chi sut i gofrestru, os dych chi'n dysgu ar gwrs. Os nad dych chi ar gwrs, mae ffurflen gofrestru yng nghefn y Ilyfryn i ymgeiswyr.
