I edrych ar ddogfen PDF ar y dudalen hon byddwch angen Adobe Acrobat Reader
Cymraeg i Oedolion
Ar y tudalennau hyn ceir gwybodaeth am y cymwysterau a’r adnoddau y mae CBAC yn eu darparu yn benodol i faes dysgu Cymraeg i Oedolion.

Cynhaliwyd seremoni i gyflwyno tystysgrifau i ymgeiswyr llwyddiannus a safodd yr arholiadau Canolradd ac Uwch yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Bala ym mis Awst. Diolch yn fawr i Angharad Mair o raglen Wedi 7 am ddod i gyflwyno’r tystysgrifau.
Cymwysterau
Mae CBAC yn darparu cyfres o gymwysterau i oedolion sy’n dysgu Cymraeg o’r enw Defnyddio’r Gymraeg. Mae’r gyfres yn rhoi cyfle i ymgeiswyr ddangos eu gallu yn y Gymraeg wrth siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu - ar y lefelau gwahanol. Gellir ennill y cymwysterau drwy sefyll arholiadau ar ddiwrnodau penodol, ac maen nhw’n agored i oedolion sydd wedi dysgu Cymraeg yn ail iaith neu sydd wrthi’n dysgu ar hyn o bryd. Does dim rhaid bod mewn dosbarth penodol er mwyn sefyll yr arholiadau na bod wedi sefyll yr arholiadau is yn gyntaf. Mae’r cymwysterau’n addas i bobl sy’n dysgu mewn dosbarth nos neu ddydd, ar gwrs dwys neu ar gwrs yn y gweithle.
Mae’r fframwaith yn y tabl isod yn rhoi arwydd o sut mae’r cymwysterau’n perthyn i’r fframwaith cymwysterau cenedlaethol ac i fframwaith ALTE/Fframwaith Cyfeirio Ewrop.
| Cymhwyster | Lefel yn y fframwaith | Lefel Fframwaith Cyfeirio Ewrop |
|---|---|---|
| Mynediad | Mynediad | A1 |
| Sylfaen | 1 | A2 |
| Canolradd | 2 | B1 |
| Uwch | 3 | B2/C1 |
| Hyfedredd | 4 | C2 |
Dyddiadau pwysig
Newydd: Mae gwybodaeth am ddyddiadau arholiadau 2011 a’r dyddiadau cau ar gael.
ALTE

Mae CBAC yn aelod llawn o ALTE (Cymdeithas i Brofwyr Ieithoedd yn Ewrop). Mae hon yn gymdeithas i sefydliadau sy’n cynnig arholiadau iaith ar draws Ewrop, yn cynrychioli 26 o ieithoedd gwahanol. Mae rhagor o wybodaeth am ALTE ar gael.
Cyn-bapurau, Manylebau ac ati
I gael hyd i gyn-bapurau, llyfrynnau i ymgeiswyr, manylebau i diwtoriaid, cliciwch ar y lefel berthnasol. I gael hyd i Fwletinau Arholiad (dogfennau yn cynnwys cynlluniau marcio, adroddiadau arholwyr, enghreifftiau o waith ymgeiswyr ar gyfer pob blwyddyn ddiweddar) cliciwch 'Dangos pob dogfen'.
Llwybr Credydau CBAC
Mae CBAC yn cynnig cyfres o unedau ar lefelau Mynediad, Sylfaen a Chanolradd, o’r enw’r llwybrau credydau. Mae’r rhain yn cynnig cyfle i ymgeiswyr gyflawni credydau wrth ddysgu, wedi eu hasesu’n anffurfiol gan y tiwtor. Mae rhagor o fanylion am y llwybrau hyn ar gael.
Adnoddau
Mae CBAC yn darparu nifer o adnoddau i’r maes Cymraeg i Oedolion:
- Y Tiwtor
Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid Cymraeg i oedolion. - Llyfrau Cwrs CBAC
Llyfrau cwrs i’r dosbarth Cymraeg i oedolion, ar lefelau Mynediad, Sylfaen a Chanolradd. - Cardiau Fflach CBAC
Cardiau fflach mawr a bach yn cynnwys ffotograffau lliw llawn i’r maes Cymraeg i Oedolion. - Ffeil Hyfedredd
Ffeil o adnoddau ar lefel cyrsiau Gloywi neu Gymraeg Graenus yn arwain at y cymhwyster lefel Hyfedredd (newydd hydref 2009). - Erfyn Hunanasesu
Erfyn i gynorthwyo dysgwyr adnabod eu lefel. - Adnoddau Eraill
Mae nifer o brojectau adnoddau ar y gweill ac yn cael eu llunio neu eu peilota ar hyn o bryd.
Cysylltu
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, neu gopïau o lyfrynnau neu fanylebau cysylltwch â: cymraegioedolion@cbac.co.uk neu ysgrifennu at:
Cymraeg i Oedolion
CBAC
245 Rhodfa’r Gorllewin
Caerdydd
CF5 2YX
Ffôn: 029 2026 5007
