Naid i'r cynnwys

 
 
 

Cymraeg Ail Iaith Lefelau:

Canfod cymwysterau ac adnoddau



Mae CBAC yn cynnig cyrsiau Lefel Mynediad Cymraeg Ail Iaith, TGAU Cymraeg Ail Iaith a TAG Cymraeg Ail Iaith. Mae’r gyfres o gymwysterau wedi profi’n boblogaidd gyda chanolfannau am nifer o resymau, gan gynnwys:

  • eglurder y manylebau a’r deunydd asesu,
  • ansawdd y ddarpariaeth Datblygiad Proffesiynol HMS,
  • dibynadwyedd yr asesu,
  • agosatrwydd staff CBAC.

Am fanylion pellach, ewch i dudalen benodol y cymhwyster.

Mae amrywiaeth eang o adnoddau ar gael yn rhad ac am ddim trwy GCaD Cymru. Mae cyn-bapurau a chynlluniau marcio ar gael yn rhad ac am ddim i athrawon ar ein Gwefan Ddiogel. Yn ogystal â'r rhain mae adnoddau eraill ar gael trwy ein Siop arlein.

Am fanylion ar Sgiliau Allweddol lefelau 1-3, gweler y tudalennau Sgiliau Allweddol.

Am fanylion pellach ar ein darpariaeth ar gyfer Cymraeg Ail Iaith, cysylltwch â:

Siân Llewelyn, Swyddog Pwnc Cymraeg Ail Iaith
029 2026 5162

sian.llewelyn@cbac.co.uk

Siân Eleri Walters, Ymgynghorydd Pwnc Cymraeg Ail Iaith
029 2026 5055

sian.walters@cbac.co.uk

Natalie Challenger, Swyddog Cefnogaeth Pwnc Cymraeg Ail Iaith
029 2026 5192

natalie.challenger@cbac.co.uk