Canfod cymwysterau ac adnoddau
Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC - mae'r cyswllt yn agor ffenest newydd) yn cynnig ystod o gyfleoedd perfformio i bobl ifainc Cymru, ym meysydd theatr, dawns a cherddoriaeth offerynnol a lleisiol.
Cynhelir clyweliadau ledled Cymru bob blwyddyn i ddewis pobl ifainc hyd at 21 mlwydd oed i gymryd rhan mewn gweithdai hyfforddi. Defnyddir y gweithdai i baratoi ar gyfer perfformiadau cyhoeddus mewn rhai o leoliadau pennaf Cymru a thu hwnt.
Cafodd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru ei phenblwydd yn 60 y llynedd. Ymhlith uchafbwyntiau'r dathliadau roedd perfformiad yn NhÅ·'r Cyffredin yn Llundain ac ymweliad â chartref Lady Walton, gweddw Syr William Walton, ar ynys Ischia ym Môr y Canoldir.
Mae CBAC yn rheoli a gweinyddu tair rhan o Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru:
- Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru
- Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
- Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru
Rheolir elfennau eraill CCIC gan Ffederasiwn Cerddoriaeth Amatur Cymru (FfCAC): Band Pres Ieuenctid, Côr Ieuenctid, Band Pres Symffonig, Jazz Ieuenctid a Cherddorfa Chwyth Ieuenctid.
Gellir cael mwy o wybodaeth, yn cynnwys sut i wneud cais am le, ar rannau unigol gwefan CCIC.
