Canfod cymwysterau ac adnoddau
Cynllun Iaith Gymraeg
Bwriad CBAC yw trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth gynnal ei waith cyhoeddus yng Nghymru.
Mae’n hamcanion yn cynnwys:
- rhoi cyfle i’r bobl sy’n cysylltu â ni ddewis rhwng y Gymraeg a’r Saesneg wrth gyfathrebu â ni
- cynhyrchu’n holl ddefnyddiau addysgol ar gyfer Cymru, boed mewn ffurf print neu ar y we, yn y ddwy iaith
- darparu mynediad at ein holl gymwysterau trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg
Ceir mwy o fanylion am ein dulliau o weithredu’r amcanion hyn yn ein Cynllun Iaith Gymraeg.
Croesewir unrhyw sylwadau neu ymholiadau am Gynllun Iaith CBAC, a gellir eu cyfeirio at:
Ceri Thomas
Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu
CBAC
245 Rhodfa’r Gorllewin
Caerdydd
CF5 2YX
