Naid i'r cynnwys

 
 
 

Canfod cymwysterau ac adnoddau




Scriptiau Rhaid danfon y sgriptiau cyflawn a r gofrestr presenoldeb i gydfynd â hwy at yr arholwr a bennwyd gan ddefnyddio'r amlenni sgriptiau plastig a r labeli cyfeiriad a ddarperir. Rhaid danfon y sgriptiau ar ddiwrnod yr arholiad lle bynnag y bo'n bosibl gwneud hynny ac yn bendant o fewn un diwrnod gwaith i'r arholiad.

Dylai canolfannau yn Lloegr gyfeirio at y cyfarwyddiadau a gyhoeddir gan DfE ar gyfer danfon sgriptiau.

Dylai canolfannau yng Nghymru, Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a thramor ddefnyddio'r post dosbarth cyntaf, neu'r post parseli i anfon pecynnau mawr. Ni ddylid defnyddio'r post cofnodedig, post cofrestredig na gwasanaethau negesydd preifat.