Naid i'r cynnwys

 
 
 

Canfod cymwysterau ac adnoddau




Mae rhan yma'r safle ar gyfer rheini a myfyrwyr. Mae'n cynnwys cyn-bapurau sydd i'w lawrlwytho a'u defnyddio am ddim, gwybodaeth ar pa brosesau i'w dilyn wrth ymwneud â CBAC a llawer o wybodaeth cefndir defnyddiol.

Arholiadau CBAC

Bydd y wefan hon yn galluogi rhieni a myfyrwyr sy'n sefyll arholiadau CBAC i ddarganfod y wybodaeth y maent eu hangen: am fanylebau pwnc, ac am newidiadau yn y cymwysterau a gynigir.

Mae'r amserlenni arholiadau blynyddol ar gael yma.

Os oes ymholiadau gennych am arholiadau, cysylltwch â'ch ysgol neu goleg yn y lle cyntaf.  Os oes angen cymorth pellach arnoch, gellwch gwblhau ffurflen adborth, ac mi wnawn ein gorau i helpu.

Cyn-bapurau

Mae cyn-bapurau am ddim ar gael yn awr. Mae'r papurau hefyd ar gael o dudalennau'r pynciau - yn yr adran ddogfennau.

Cymorth astudio

Hefyd, gallwch ymweld â'n siop ar-lein i gael canllawiau adolygu a llyfrau gosod eraill fydd yn eich helpu i astudio.

Rôl addysgol a diwylliannol CBAC

Yn anhebyg i Gyrff Dyfarnu Arholiadau eraill, mae amrediad gwaith CBAC yn cynnwys elfennau addysgol a diwylliannol sy'n ehangach o lawer nag arholiadau yn unig.

Er enghraifft, rydym yn cynnwys cyfleoedd perfformio o'r radd flaenaf i bobl ifainc yng Nghymru gyda'n Cerddorfa Ieuenctid Genedlaethol a Theatr Ieuenctid Cenedlaethol, dwy ran o Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

Rydym yn cynnig ystod gynyddol o adnoddau addysgol ar-lein rhad ac am ddim, trwy GCaD Cymru (Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Cymru).  Ariennir y Grid gan Lywodraeth y Cynulliad, ac mae'n cynnwys adnoddau addysgol rhyngweithiol ar gyfer pob oedran o'r Blynyddoedd Cynnar i Ôl 16.