Canfod cymwysterau ac adnoddau
Derbyn y Papurau Cwestiwn

Bydd Papurau Cwestiynau a deunyddiau cyfrinachol eraill yn cael eu hanfon mewn blychau wedi’u selio gan CBAC a byddant fel arfer yn cyrraedd y canolfannau o leiaf bythefnos, ac yn bendant yn ddim llai nag wythnos cyn yr arholiad perthnasol. Os ydych yn dal i ddisgwyl am bapurau arholiad sydd i fod i’w gynnal yn y saith diwrnod i ddod, dylech gysylltu â’r swyddfa ar fyrder.
Cyhoeddir papurau cwestiynau cyfres yr haf mewn tri swp:
- Papurau arholiadau mis Mai – dosberthir y rhain ar ddiwedd mis Ebrill
- Papurau arholiadau Mehefin – dosberthir y rhain yn mis Mai
Pan fydd y deunydd yn cael ei dderbyn, dylid gwirio’n cynnwys yn ofalus yn erbyn y nodyn hysbysu, a’i roi mewn storfa ddiogel tan y bydd ei angen. Dylid hysbysu’r swyddfa ar unwaith treyanfon e-bost at:
Bydd copïau o’r llyfryn “Gofynion Arholiad” perthnasol yn cael eu cyhoeddi gyda’r papurau cwestiynau. Mae’r llyfryn hwn yn rhoi manylion y deunyddiau sydd eu hangen ar gyfer pob arholiad ac unrhyw ofynion eraill.
Os bydd argyfwng yn digwydd (h.y. darganfod ar ddiwrnod yr arholiad nad yw’r papur cywir gennych), waeth pa mor annhebygol yw hynny, dylech gysylltu â’r swyddfa am gyngor ar lwytho’r papur i lawr trwy wefan ddiogel CBAC.
