Canfod cymwysterau ac adnoddau
Asesu Mewnol - Cyflwyno Marciau

Cyffredinol
Mae’r rhan fwyaf o bynciau TAG a TGAU yn cynnwys un neu fwy o elfennau a asesir yn fewnol. Mae rhestr lawn o’r cydrannau hyn, ynghyd ag arweiniad manwl ar weithdrefnau asesu ar gael yn llyfryn gwybodaeth CBAC - “Llawlyfr Asesu Mewnol” sy’n cael ei gynhyrchu’n flynyddol.
Cyflwyno marciau a dethol samplau
Pan fydd gwaith yr ymgeiswyr wedi’i asesu, bydd angen cyflwyno marciau’r ganolfan i CBAC a danfon samplau at safonwr CBAC.
Cyn gynted ag y bydd y cofrestriadau ar gyfer y gyfres wedi’u cyflwyno a’u prosesu gan CBAC, bydd angen i swyddogion pwnc fewngofnodi ar wefan ddiogel CBAC (bydd angen enw defnyddiwr a chyfrinair arnynt) a mynd at y cyfleuster “Mewnbynnu Marciau Asesiad Mewnol”. Bydd tudalen we ar gael ar gyfer pob uned/cydran a asesir yn fewnol y mae canolfannau wedi cyflwyno cofrestriadau ar eu cyfer, a bydd enwau a rhifau’r ymgeiswyr ar y dudalen hon yn barod. Yr unig beth mae’n rhaid i athrawon pwnc ei wneud felly yw mewnbynnu marciau’r holl ymgeiswyr, a bydd y system yn dethol yr ymgeiswyr fydd yn rhan o’r sampl yn awtomatig. Yn y canolfannau hynny lle mae marciau gwaith cwrs yn cael eu cyflwyno drwy EDI, bydd y marciau’n cael eu trosglwyddo’n awtomatig i dudalennau we’r pynciau, ond bydd angen i athrawon pwnc barhau i fynd i’r system ar-lein i (a) nodi sampl yr ymgeiswyr a (b) mewnbynnu gwybodaeth am y grŵp addysgu (TGAU Saesneg/Llenyddiaeth Saesneg yn unig). Yn ogystal, gellir gweld enw a chyfeiriad y safonwr a ddyrennir i’r ganolfan er mwyn argraffu label cyfeiriad.
Yna dylid danfon gwaith ymgeiswyr y sampl at y safonwr erbyn y dyddiad cau a gyhoeddir, ynghyd â’r taflenni clawr perthnasol.
Dogfennau Alweddol
Y Drefn Newydd ar gyfer Gwaith Cwrs - Canllawiau i Ganolfannau
