Canfod cymwysterau ac adnoddau
Yn Ystod yr Arholiadau

Bwriad y tudalennau hyn yw rhoi cymorth ac arweiniad i swyddogion arholiadau ar faterion ac anawsterau posibl a allai ddigwydd yn ystod pob cyfres arholiadau.
Y prif adnodd ar gyfer swyddogion arholiadau yn ystod y cyfnod hwn yw Llyfryn y CGC "Cyfarwyddiadau ar Gynnal Arholiadau" a dylai pob swyddog arholiadau wneud yn siwr eu bod yn gwbl gyfarwydd â’r dulliau gweithredu a rheolau a nodir yn y ddogfen hon. Gellir cael crynodeb fer o rai o’r materion sy’n codi amlaf trwy glicio ar y cyswllt perthnasol ar y chwith.
Mae'r llyfrynnau canlynol hefyd ar gael gan y CGC Cyfarwyddiadau ar Gynnal Asesiadau dan Reolaeth a Cyfarwyddiadau ar Gynnal Gwaith Cwrs.
Dylid nodi mai’r hyn sy’n codi amlaf yn ystod cyfnod yr arholiadau yw’r arholiadau y gallai fod angen "Ystyriaeth Arbennig" arnynt. Mae hwn yn faes mawr ac arwahanol y mae iddo gysylltiadau cryf â’r darpariaethau’n ymwneud â’r Trefniadau Mynediad. Gellir cael manylion pellach ar y ddau faes hyn felly mewn mannau eraill ar y wefan hon.
Dylai canolfannau nodi bod Gwasanaeth Arolygu Canolfannau y CGC yn cadw’r hawl i ymweld â chanolfannau yn ystod yr arholiadau i arolygu’r trefniadau ac i wneud yn siwr y cedwir yn llawn at yr holl reoliadau.
Os hoffai unrhyw athrawon yn eich canolfan gyflwyno sylwadau am unrhyw bapur arholiad CBAC, gallant wneud hynny drwy lawrlwytho copi o Ffurflen Sylwadau Canolfannau. Dylid llenwi’r ffurflenni a’u dychwelyd yn y post i’r cyfeiriad a argraffwyd ar y ffurflen. Caiff crynodeb gynhwysfawr o’r sylwadau a gyflwynwyd ei chyflwyno wedyn i Bwyllgor Arholiadau ac Asesu CBAC yn yr Hydref ar ôl yr arholiad, a bydd unrhyw bwyntiau a godir yn cael eu hystyried wrth roi papurau at ei gilydd yn y dyfodol.
