Naid i'r cynnwys

 
 
 

Canfod cymwysterau ac adnoddau




Swyddogion ArholiadauMae rhan yma'r safle ar gyfer swyddogion arholiadau sydd mewn ysgolion, colegau a sefydliadau eraill sy’n cofrestru ymgeiswyr ar gyfer arholiadau CBAC.

Amserlenni Arholiadau Tachwedd 2013 ac Ionawr/Mehefin 2014

Mae amserlenni rhagarweiniol cyfresi 2013 a 2014 ar gael yn awr i ganolfannau gyflwyno sylwadau arnyn nhw.

Lloegr

Ni fydd amserlenni TAG a TGAU Ionawr 2014 yn berthnasol i ganolfannau yn Lloegr oherwydd penderfyniad Ofqual i beidio â darparu cyfres TAG/TGAU Ionawr.

Gwledydd Eraill

Bydd cyfres TGAU Ionawr 2014 ar gael i ganolfannau tu allan i Loegr. Mae CBAC yn aros o hyd am gadarnhad gan Lywodraeth Cymru i ddweud a fydd cyfres TAG Ionawr yn parhau i fod ar gael yng Nghymru. Os nad yw’r gyfres hon yn parhau yng Nghymru, yna tynnir y cyfle asesu TAG Ionawr yn ôl yn llwyr.

Arholiadau yn ystod amodau tywydd gwael a chyfnodau o amhariad

Gwallau mewn papurau cwestiynau

Mae’n annhebygol y bydd canolfan yn gweld gwall ar un o bapurau cwestiynau CBAC, neu ar ddeunydd asesu perthynol ond os yw hynny’n digwydd gellir darganfod fwy o wybodaeth ar y linc isod.

Gwallau mewn papurau cwestiynau

Manylebau Unedol - TGAU

Dilynwch y ddolen isod i wylio fideo sy'n esbonio rheolau mynediad ac ail-sefyll ar gyfer manylebau TGAU unedol (Mae cynnwys y fideo ond ar gael yn uniaith Saesneg):
Fideo Manylebau Unedol - TGAU

TGAU Cyfeiriadur Uned

Cyfres yr Haf 2012 – cyflwyno marciau cydrannau arholiad sy’n cael eu hasesu’n fewnol

Hoffem hysbysu’r canolfannau y bydd y dulliau ar-lein a ddefnyddiwyd i gyflwyno marciau’r canolfannau yn y pynciau TAG a’r TGAU Saesneg/Llenyddiaeth Saesneg yn yr haf 2011 yn cael eu cyflwyno ar gyfer gweddill y pynciau TGAU yn yr haf 2012.

Gyda’r drefn newydd hon bydd athrawon pwnc yn mewnbynnu marciau ar dudalen we fydd eisoes yn cynnwys manylion cofrestru’r ymgeiswyr perthnasol. Yna bydd ymgeiswyr y sampl yn cael eu nodi’n awtomatig a bydd modd cwblhau’r broses samplu a llwytho’r marciau i fyny fel un trafodyn electronig. Felly, bydd angen i bob athro pwnc sy’n llwytho marciau i fyny gael y canlynol (i) cyfrif gwefan ddiogel, (ii) mynediad i’r cyfleuster “Rhoi Marciau Gwaith Cwrs i Mewn” a (iii) mynediad i’r dudalen (tudalennau) gwe penodol i’w pynciau. Gall deiliaid y prif gyfrifon (h.y. swyddogion arholiadau) greu’r cyfrifon angenrheidiol erbyn hyn. Gallant felly ddyrannu’r mynediad angenrheidiol trwy’r dudalen Gweinyddu’r Cyfrif, er mwyn bod yn barod i lwytho’r marciau i fyny o fis Mawrth 2012.

Mae’r system ar-lein yn llawer cyflymach a chyfeillgar i’r defnyddiwyr na’r dulliau traddodiadol oedd yn cynnwys “Ffurflenni C” darllenydd gweledol a thaflenni marciau papur. Dylai olygu fod y baich biwrocrataidd ar y canolfannau’n llawer llai hefyd.

Bydd angen i’r athrawon pwnc lenwi copïau caled o’r taflenni clawr gwaith cwrs unigol o hyd gan eu bod yn cynnwys datganiadau dilysu’r athro / ymgeisydd. Ni fydd angen taflenni marciau’r sampl safoni a’r ffurflenni C o flynyddoedd blaenorol mwyach.

Gwybodaeth a’r arweiniad manwl a gyhoeddwyd ar gyfer yr haf 2011 am y trefniadau ar-lein

Mae’n rhoi rhagarweiniad da i’r system newydd i unrhyw ganolfannau nad ydynt yn gyfarwydd â hi. Bydd arweiniad/sgrinluniau wedi’u diweddaru ar gyfer yr haf 2012 yn cael eu cyhoeddi’n gynnar yn y flwyddyn newydd.

Yn y cyfamser, os oes unrhyw swyddogion arholiadau am holi unrhyw beth am y trefniadau newydd hyn, cysylltwch a:

TAGalevel@wjec.co.uk(029)20265148
TGAUgcse@wjec.co.uk(029)20265082
Sgilian Gweithredolfunctionalskills@wjec.co.uk(029)20265128
Tystysgrifau Lefel 1 a Level 2 yn Ladinlatin@wjec.co.uk(029)20265128

Dogfennau

Gellir llwytho copïau o holl ddogfennau pwysig CBAC i lawr drwy glicio ar y ddogfen berthnasol yn adran ddogfennau'r dudalen hon.

Prosesau cyffredin

Gellir dod o hyd i amrywiaeth eang o ddogfennau’n ymwneud â phrosesau gweinyddol sy’n gyffredin i’r holl gyrff dyfarnu cymwysterau cyffredinol ar wefan y Cyd-gyngor Cymwysterau (JCQ).

Gwefan ddiogel CBAC

Mae gwefan ddiogel CBAC (ar gael i ganolfannau arholi’n unig ar ôl cofrestru ar ei chyfer). Mae hon yn cynnig amrywiaeth o ddeunyddiau ychwanegol, gan gynnwys cyn-bapurau yn rhad ac am ddim, ac yn galluogi swyddogion arholiadau i ymgymryd â rhai trafodion ar-lein.

Datblygiad Proffesiynol

Mae CBAC hefyd yn gweithredu rhaglen flynyddol o hyfforddiant i swyddogion arholiadau newydd a phrofiadol – bydd y manylion yn cael eu hysbysebu ar y wefan hon, o dan 'Datblygiad Proffesiynol'.