Canfod cymwysterau ac adnoddau
Tystysgrifau
Gweithdrefnau Arferol
Mae tystysgrifau arholiad fel arfer yn cael eu cyflenwi i ganolfannau o fewn 10 wythnos o gyhoeddi'r canlyniadau. Bydd pob canolfan yn penderfynu ar y dull mwyaf priodol o ddosbarthu'r tystysgrifau i'r ymgeiswyr. Os nad ydych wedi derbyn eich tystysgrif arholiad hyd yn hyn, dylech gysylltu â'r ganolfan lle y safwyd yr arholiad yn y lle cyntaf. Dylech nodi ei bod ond yn ofynnol i ganolfannau gadw tystysgrifau sydd heb eu hawlio am flwyddyn o’r dyddiad cyhoeddi.
Cadarnhau Cymwysterau
I gael cadarnhad o gymwysterau, gall ymgeiswyr wneud cais am un o’r canlynol:
- Datganiad o ganlyniadau o’r enw “Datganiad Ardystio Canlyniadau”
- "Llythyr o Gadarnhad "
ON: A fyddech cystal â sicrhau bod y sefydliad sy’n gofyn am gadarnhad o’r cymwysterau yn derbyn y ‘Llythyr o Gadarnhad’, cyn i chi wneud cais.
Ni ellir gwneud cais am gadarnhad o gymwysterau gan drydydd parti ar ran yr ymgeisydd.
Dylai canolfannau gysylltu’n uniongyrchol â’r adran berthnasol (hy TGAU/TAG Safon Uwch ayyb) i gael cyngor am weithdrefnau sy’n ymwneud â thystysgrifau a gyhoeddwyd o fewn y deuddeg mis diwethaf.
Rhaid i sefydliadau sydd angen cadarnhad o gymwysterau ymgeisydd ofyn i’r ymgeisydd lenwi’r ffurflen gais.
Ffurflen Gais
Cysylltwch â ni:
Tystysgrifau Newydd/Cadarnhad o Gymwysterau
Ffôn: 029 2026 5056 / 029 2026 5041
E-bost: replacementcertificates@wjec.co.uk
Post: Tystysgrifau Newydd, CBAC, 245 Rhodfa’r Gorllewin, Caerdydd CF5 2YX
