Canfod cymwysterau ac adnoddau
Gofynion Arbennig

Mae manylion llawn am y dulliau i'w dilyn ar gyfer Trefniadau Mynediad ac Ystyriaeth Arbennig i'w cael yn llyfryn y CGC "Trefniadau Mynediad, Addasiadau Rhesymol ac Ystyriaeth Arbennig". Gellir llwytho'r canlynol i lawr mewn fformat PDF o wefan y CGC – copïau o'r llyfryn a chopïau o'r ffurflenni perthnasol i gyd.
Trefniadau Mynediad
Gall fod gan rai ymgeiswyr arholiad yr hawl i gael trefniadau mynediad penodol, i'w cefnogi wrth iddynt sefyll arholiadau.
Mae amrywiaeth eang o drefniadau mynediad ar gael – e.e. darparu darllenydd, ysgrifennydd, amser ychwanegol ayb.
Dylid prosesu'r holl geisiadau am 'drefniadau mynediad' TAG/TGAU gan ddefnyddio'r cyfrwng ar-lein (Trefniadau Mynediad Ar-lein) a ddatblygwyd gan QCDA a chyrff dyfarnu'r CGC. Gellir cyrchu'r cyfrwng o wefan ddiogel CBAC, neu o allrwydi unrhyw un o'r cyrff dyfarnu eraill. Dylid parhau i gyflwyno ceisiadau am Lefel Mynediad, Sgiliau Sylfaenol ac Allweddol a Sgiliau Gweithredol gan ddefnyddio ffurflenni papur, sydd ar gael i'w llwytho i lawr o'r dudalen Trefniadau Mynediad ar wefan y CGC.
Dylai'r rhan fwyaf o’r ceisiadau ar lefel TAG/TGAU gael eu datrys yn awtomatig gan ddefnyddio'r cyfrwng ar-lein. Mewn unrhyw achosion lle nad yw cais yn cael ei gymeradwyo, mae'r cyfrwng yn caniatáu i'r Swyddog Arholiadau gyfeirio'r cais i'r cyrff dyfarnu perthnasol i'w benderfynu ar wahân.
Mae'r cyfrwng yn rhwydd iawn i'w ddefnyddio a'i ddeall ac yn gyfeillgar i'r defnyddiwr. Os ydych am archwilio sut mae'n gweithio cyn i chi fewnbynnu unrhyw ddata byw, mae fersiwn hyfforddi ar wahân o'r safle ar gael.
Ystyriaeth Arbennig
Yn achos ymgeiswyr y mae eu perfformiad mewn arholiad yn cael ei effeithio gan amgylchiadau y tu hwnt i'w rheolaeth (salwch, profedigaeth ayb), gallai fod ganddynt yr hawl i gael Ystyriaeth Arbennig. Mae'r dulliau hyn yn gyffredin i'r holl Gyrff Dyfarnu Cymwysterau Cyffredinol.
Gellir rhoi Ystyriaeth Arbennig i ymgeiswyr cymwys sydd yn:
a. Presennol am asesiad ond o dan anfantais,
b. Absennol o asesiad wedi'i amserlennu oherwydd salwch neu reswm derbyniol arall - mae hyn yn berthnasol i'r gyfres derfynol (ymgeiswyr cyfnewid) yn unig.
Dylai canolfannau gyflwyno cais am bod ymgeisydd a effeithiwyd gan ddefnyddio ‘Ystyriaeth Arbennig’ ar-lein sydd ar gael o wefan ddiogel CBAC. Dylid parhau i ddefnyddio’r ffurflen JCQ/SC Ffurflen 10 ar gyfer ceisiadau grŵp (os nad ydych am brosesu pob ymgeisydd yn unigol), asesiadau dan reolaeth/oruchwyliaeth heb eu hamserlennu, colli gwaith a aseswyd yn y ganolfan . Dylid cysylltu tystiolaeth feddygol ychwanegol lle y bo’n briodol gwneud hynny.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynglŷn â threfniadau mynediad neu ystyriaeth arbennig cysylltwch â John Doyle (Pennaeth yr Is-adran Gofynion Arbennig) – john.doyle@wjec.co.uk
