Naid i'r cynnwys

 
 
 

Canfod cymwysterau ac adnoddau




Canlyniadau

Ar ôl cyhoeddi’r canlyniadau ar gyfer pob cyfres o arholiadau, mae CBAC yn cynnig ystod lawn o wasanaethau ar ôl y canlyniadau, gan gynnwys ymholiadau am ganlyniadau a dychwelyd sgriptiau ymgeiswyr. Rhestrir manylion y gwasanaethau a gynigir, terfynau amser a chysylltbwyntiau yn CBAC yn llyfryn y CGC Gwasanaethau ar ôl y Canlyniadau: Mehefin 2010, Tachwedd 2010 ac Ionawr 2011.

Mae dogfen ar wahân yn rhoi gwybodaeth am y ffioedd a godir gan CBAC ar hyn o bryd am bob un o’r gwasanaethau hyn:

Os hoffech gyflwyno ymholiad am ganlyniad arholiad, neu wneud cais am gael dychwelyd sgriptiau arholiad, gallwch wneud hyn ar-lein drwy wefan ddiogel CBAC.

DS – Cynghorir rhieni ac ymgeiswyr fod yn rhaid i bob cais am wasanaethau ar ôl y canlyniadau gael ei gyflwyno drwy’r ganolfan arholi berthnasol.

Tra y bydd cyrff dyfarnu'n derbyn cais am ymholiad am ganlyniadau'n syth gan ymgeisydd preifat, gall ymgeiswyr preifat hefyd ddewis ceisio cais trwy eu canolfan yn y lle cyntaf.